News

Third Sector Trends in Wales

After another long period of ups and downs and twists and turns in the voluntary sector, Third Sector Trends in Wales  is back to see how social, political and economic change has affected organisations like yours.

Many of you will have been helping with this study every three years since 2019. We’re now asking you to take part again. And if you’re a new organisation, we’re just as keen to see what you do, how things are going and what you’re achieving.

Whether you’re big or small – thriving, struggling or just going along as normal – we need to hear from you. It’s quick and easy to do, interesting, and really helps to build a picture about how the voluntary sector responds to change and initiates change in society.

So if you’re an amateur sports, dance or gardening club, a village hall, a carers’ group, an arts organisation, a campaigning trust; or if you deliver social or health services, care for the environment or run a hostel or food bank – whatever you do, it’s important to us.

The study runs right across Wales and England – but its focus is still very local – looking at how the voluntary sector develops and works in areas like yours – whether the interests you serve are focused in a neighbourhood/village – or span national/international boundaries.

It’s completely confidential, incredibly relevant to the voluntary sector and those who support it and only happens every three years. So please tell us how it’s going and have your say on what you think the future holds.

Click here for the survey: https://app.onlinesurveys.jisc.ac.uk/s/durham/third-sector-trends-in-wales-2025

 

Ar ôl cyfnod hir arall o lan a lawr a throi a throelli yn y sector gwirfoddol, mae Tueddiadau’r Trydydd Sector yng Nghymru yn ôl i weld sut mae newidiadau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd wedi effeithio ar fudiadau fel eich rhai.

Bydd llawer ohonoch wedi bod yn ein helpu gyda’r astudiaeth hon bob tair blynedd ers 2019. Nawr, rydym yn gofyn i chi gymryd rhan eto. Ac os ydych chi’n fudiad newydd, rydym yn awyddus i weld yr hyn rydych chi’n ei wneud, sut mae pethau’n mynd a’r hyn rydych chi’n ei gyflawni.

Waeth a ydych chi’n fawr neu’n fach – yn ffynnu, cael problemau neu’n dal ati fel arfer – mae angen i ni glywed gennych. Mae’n gyflym a hawdd ei wneud, yn ddiddorol ac yn helpu i greu darlun o sut mae’r sector gwirfoddol yn ymateb i newid ac yn cyflawni newid mewn cymdeithas.

Felly os ydych chi’n glwb chwaraeon, dawnsio neu arddio amatur; yn neuadd bentref, grŵp gofalwyr, mudiad celfyddydol, ymddiriedolaeth ymgyrchu; neu os ydych yn darparu gwasanaethau cymdeithasol neu iechyd, yn gofalu am yr amgylchedd neu’n rhedeg hostel neu fanc bwyd – beth bynnag rydych chi’n ei wneud, mae’n bwysig i ni.

Mae’r astudiaeth yn cael ei chynnal ar hyd a lled Cymru a Lloegr – ond yn parhau i ganolbwyntio’n fawr ar bethau lleol – yn edrych ar sut mae’r sector gwirfoddol yn datblygu ac yn gweithio mewn meysydd fel eich un chi – waeth a yw’r buddiannau sydd gennych yn canolbwyntio ar gymdogaeth/pentref – neu’n cwmpasu ffiniau cenedlaethol/rhyngwladol.

Mae’n gwbl gyfrinachol, yn hynod berthnasol i’r sector gwirfoddol a’r rheini sy’n ei gefnogi a dim ond yn digwydd bob tair blynedd. Felly, os gwelwch yn dda, rhowch wybod i ni sut mae pethau’n mynd a lleisiwch eich barn ar yr hyn sydd gan y dyfodol i’w gynnig yn eich tyb chi.

Cliciwch yma i fynd i’r arolwg: https://app.onlinesurveys.jisc.ac.uk/s/durham/tueddiadau-r-trydydd-sector-yng-nghymru-2025

Go back to news