Newyddion

Enwebwch grŵp a aeth yr ail filltir i ennill

Rydyn ni’n defnyddio cystadleuaeth i ddod o hyd i grwpiau a aeth yr ail filltir yn ystod y pandemig. Bydd y grŵp neu sefydliad cymunedol sy’n cael y nifer fwyaf o bleidleisiau’n derbyn £1000, gyda’r ail le’n derbyn £500 a’r trydydd yn cael £250. Gallwch enwebu gan ddefnyddio’r ffurflen enwebu hon drwy gydol mis Ebrill, a bydd y bleidlais yn digwydd ar Cysylltu RCT ym mis Mai.

Gellir gwario’r wobr ar gynyddu nodau’r grŵp neu sefydliad mewn unrhyw ffordd fynnan nhw. Meddyliwch beth allai gael ei wneud â’r arian! Cyhoeddir yr enillwyr yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr rhwng 1 a 6 Mehefin.

Ffyrdd o fynd ‘yr ail filltir’

Dyw hon ddim yn rhestr lawn o ffyrdd y gallai grŵp neu sefydliad fod wedi mynd yr ail filltir, ond mae gweithgareddau sy’n gymwys i gael eu henwebu’n cynnwys:

  • gwirfoddoli am oriau maith
  • bod yn ddyfeisgar iawn gyda’r hyn oedd ar gael
  • cyflawni er gwaetha’r anawsterau a achoswyd gan y pandemig
  • bod yno i bobl fregus pan nad oedd neb arall yno
  • llenwi bylchau mewn cefnogaeth gymdeithasol

Manylion y Gystadleuaeth:

Rhaid i’r rhai a enwebir fod:

  • yn grŵp neu sefydliad cymunedol neu wirfoddol a leolir yn RCT
  • â phroffil ar Cysylltu RCT
  • wedi mynd ‘yr ail filltir’ yn y pandemig (o Ionawr 2020 ymlaen)

Cyhoeddi’r rhai a enwebwyd

Cyhoeddir enwau’r rhai a enwebwyd ar 4 Mai pan fydd y pôl yn cael ei ddatgelu ar Cysylltu RCT. Gwnewch yn siŵr fod eich hoff grŵp neu sefydliad cymunedol yn cael y wobr maen nhw’n ei haeddu drwy eu henwebu ar y ffurflen enwebu fer, syml hon.

Nôl i Newyddion