Mentora i gyfoedion ar gyfer rhannu sgiliau

Mae’r prosiect hwn yn ddull o ennill sgiliau gan arbenigwyr yn y sector gymunedol leol yn rhad ac am ddim. Bydd ein cydlynydd yn paru’r mentor â rhywun a hoffai gael cymorth, a all fod ar gael yn un o’r meysydd hyn:

  • cael pobl a eithriwyd yn ddigidol i ddefnyddio technoleg
  • hybu llesiant gyda mynediad i’r awyr agored
  • taclo newid hinsawdd
  • adferiad / ailagor ar ôl y pandemig

Bydd gan rai mentoriaid sgiliau mewn meysydd eraill, felly edrychwch ar broffiliau’r mentoriaid neu holwch i weld beth allan nhw ei gynnig.

Cysylltu â’r Cydlynydd Cyfoedion

Melanie Millar
T: 07704 322965.
E: MMillar@interlinkrct.org.uk

Rydyn ni’n awyddus i ddod o hyd i bobl a hoffai ddod yn fentoriaid cyfoed. Os oes gennych sgiliau trosglwyddadwy yn y meysydd uchod, cysylltwch os gwelwch yn dda.

Dod yn fentor cyfoed

Mae manteision bod yn fentor cyfoed yn cynnwys:

  • cael eich talu ar gyfradd o £50 yr awr, hyd at uchafswm o £350 y dydd
  • cael mwy o effaith yn eich maes arbenigedd yn lleol drwy rannu eich gwybodaeth ag eraill er mwyn iddyn nhw allu gwneud beth rydych chi’n ei wneud
  • adeiladu cysylltiadau cryf, cefnogol o’r ddwy ochr yn hafal a fydd yn eich helpu â’ch gwaith
  • dod o hyd i bobl a sefydliadau yr hoffech geisio cyllid gyda nhw efallai
  • cael mwy o sylw i’ch gwaith drwy gael proffil uwch yn y gymuned
  • cael y bodlonrwydd o roi’n ôl i’r gymuned

Mae Janis Werrett, Cyfarwyddwr yn Cynon Valley Organic Adventures wedi mentora pobl ar ragnodi cymdeithasol gwyrdd. Dyma oedd ganddi hi i’w ddweud am fod yn fentor:

“Mae gallu cysylltu â grwpiau eraill â gwerthoedd ac amcanion tebyg i ni yn amhrisiadwy. Mae wedi helpu i adeiladu cysylltiadau cryf sy’n gyd-gefnogol a fydd yn para ymhell i’r dyfodol.

Y rhan bwysicaf i fi, serch hynny, yw chwarae rhan mewn creu a chefnogi mentrau cymunedol eraill fel ein un ni, helpu i godi ymwybyddiaeth o ragnodi gwyrdd a rhannu adnoddau a strwythur i sicrhau fod ardaloedd eraill yn gallu manteision o weithgareddau a chefnogaeth debyg.”

Byddwch yn cael eich dwyn i mewn ar yr adeg gywir i gefnogi datblygiad grŵp neu sefydliad. Hefyd, mae’r ymwneud â’r grŵp neu sefydliad yn gymharol fyr, sy’n golygu mai peth achlysurol yw’r angen am eich gwaith. Gallwch ddewis pa mor aml a phryd i ysgwyddo ymholiadau mentora, yn seiliedig ar eich llwyth gwaith eich hun.

Derbyn mentora cyfoed

Gall mentora cyfoed:

  • roi’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i ffynnu i’ch sefydliad
  • arbed arian i chi, am fod hon yn ffordd rad ac am ddim o ychwanegu sgiliau i’ch grŵp
  • rhoi hyder i chi eich bod chi ar y llwybr cywir, gyda barn gan rywun llwyddiannus sydd wedi gwneud hyn o’r blaen

Ar ôl derbyn mentora ar greu cais am gyllid, dyma ddywedodd Danny Grehan o Gyfeillion Parc Sglefr Tyn Y Bryn:

“Ar ôl bod yn gymaint rhan o’r cais, roedd hi’n wych cael pâr allanol o lygaid i ddarllen drwy’r cais ac awgrymu pethau oedd [yn rhoi] syniad i ni o’r hyn oedd ei angen yn y cais, ar ôl bod drwy’r broses.

“Roedd hyn yn ymyrraeth bwysig ar yr union adeg gywir ac o’r union fath cywir… Rhoddodd fwy o bositifrwydd i mi am ein prosiect ac am ein tebygrwydd o lwyddo.

“Mae cael Craig i weithio gyda ni ar ein cais wedi hybu ein hyder yn ein prosiect a’n cais.”

Gweld ein rhestr gynyddol o fentoriaid cyfoed, gyda nodiadau am eu harbenigedd.