Gwirfoddoli

 

Gwirfoddoli yw anadl einioes cymunedau a grwpiau gwirfoddol. Amcangyfrifir fod 60% o bobl RCT – rhyw 140,000 o bobl, nifer anhygoel – yn gwirfoddoli boed hynny mewn grŵp neu drwy helpu cymdogion.

Gallwch wirfoddoli drwy ein rhwydwaith drwy gysylltu â sefydliadau a restrir yn ein bwletin gwirfoddoli. Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar ein gwefan Connect RCT hefyd.

Cyfleoedd eraill i wirfoddoli

I gael sgwrs anffurfiol am y math o swydd wirfoddoli a allai fod yn addas i chi, cysylltwch ag aelod i’r Tîm Cyngor Cymunedol.

Cysylltu:

Y Tîm Cyngor Cymunedol 

E: volunteering@interlinkrct.org.uk

T: 01443 846200

Mae gwirfoddoli’n ffordd o:  

  • cael sgiliau neu brofiad ar gyfer y swydd ddelfrydol
  • rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned
  • cadw i fynd ar ôl ymddeol
  • achub y byd, neu o leiaf Rhondda Cynon Taf

Gallai hynny olygu eich bod chi’n cael:  

  • gweithio gydag anifeiliaid
  • cymryd rhan mewn gwaith gyda ieuenctid 
  • mwynhau wrth ddawnsio, er enghraifft, os ydych chi’n mynd yn gyfaill gig
  • defnyddio eich sgiliau chwaraeon
  • darparu cymorth cyntaf
  • cwrdd â phobl newydd
  • plannu coedwig, er enghraifft, os ydych chi’n cymryd rhan mewn prosiect plannu coed  

Beth bynnag sy’n eich diddori, a phwy bynnag ydych chi, gallwch ddod o hyd i’r cyfle cywir gyda ni. Dyma daflen wybodaeth ddefnyddiol os ydych chi’n ystyried gwirfoddoli ond ddim yn siŵr ble i ddechrau.

I gael sgwrs anffurfiol am y math o wirfoddoli a allai fod yn addas i chi, cysylltwch ag aelod o’r Tîm Cyngor Cymunedol.

Cysylltu:

Y Tîm Cyngor Cymunedol

E: volunteering@interlinkrct.org.uk

T: 01443 846200

Mae Gwirfoddoli Cymru’n rhestru’r cyfleoedd gwirfoddoli diweddaraf o ran COVID-19 yn eu hadran chwilio coronafeirws. Hefyd, rydyn ni wedi bod yn recriwtio gwirfoddolwyr i gefnogi cymunedau drwy’r pandemig. Cysylltwch â ni os hoffech wirfoddoli neu recriwtio gwirfoddolwyr gyda’n cefnogaeth ni: 

Cysylltu:

E: volunteering@interlinkrct.org.uk.

T: 01443 846200.

Os ydych chi’n adnabod rhywun a hoffai wirfoddoli, ac sydd wedi rhoi’u caniatâd, dywedwch wrthym, a rhowch eu manylion cyswllt i ni. Byddwn ni’n cynorthwyo pobl o gefndiroedd sy’n ei chael hi’n fwy anodd cael lleoliad gwirfoddoli er mwyn gwella’u llesiant neu’u cyflogadwyedd. Hefyd, rydyn ni’n cefnogi pobl i wirfoddoli drwy gyfrwng Prifysgol De Cymru a thrwy raglen baccalaureate Cymru eu hysgolion. Yn ogystal byddwn ni’n helpu sefydliadau gan gynnwys Canolfan Byd Gwaith i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli i bobl fel llwybr i gael gwaith.  

Cysylltu: 

E: volunteering@interlinkrct.org.uk

T: 01443 846200.