Cyngor i unigolion

 

Rydyn ni yma i helpu. Efallai y byddech chi’n elwa o gael cefnogaeth i wella eich llesiant, cymorth COVID-19, gwirfoddoli neu gymryd rhan yn eich cymuned. Gweler y dewisiadau isod, os gwelwch yn dda.

Mae gan ein tudalen gefnogaeth COVID-19 restrau o grwpiau sy’n gallu eich helpu chi yn ystod y pandemig. Hefyd, mae arno gyngor i bobl oedd yn cysgodi gynt, a phecyn cefnogi llesiant, yn ogystal â dolenni defnyddiol.  

Mae ein cydlynwyr llesiant yn cefnogi pobl sydd â phroblemau cymdeithasol, ymarferol ac emosiynol, Byddan nhw’n dangos y ffordd ac yn cyfeirio pobl i wasanaethau lleol, grwpiau a gweithgareddau sy’n gwella’u hiechyd a’u llesiant. Gweler ein tudalen cefnogaeth a llesiant i gael pob dewis sydd ar gael.

Gall gwneud rhywbeth dros y gymuned wneud i chi deimlo’n dda wrth wneud daioni. Gallwch gwrdd â phobl newydd a datblygu sgiliau ar gyfer swydd newydd, ac ar yr un pryd roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned. Hefyd, mae’n ffordd wych o gadw’n fywiog, gweld beth sy’n digwydd yn lleol, a gweithio ar achos sy’n eich tanio chi.

Dysgwch sut allwch chi wirfoddoli ar ein tudalen wirfoddoli.  

Mae llawer yn digwydd yn RCT. Os ydych chi eisiau teimlo cyswllt â’r cyfan, gweler y dewisiadau sydd ar gael ar y dudalen ymwneud â’r gymuned.

Dysgu mwy

Gwybodaeth a chyngor

Cyngor ar gyfer grwpiau cymunedol a gwirfoddol

Grwpiau