Cyngor ar gyfer grwpiau

Rydyn ni’n darparu cymorth trefnu rhad ac am ddim i grwpiau cymunedol a gwirfoddol. Gall hyn fod yn wybodaeth, cyngor neu unrhyw beth sydd yn yr adran ‘y cymorth sydd ar gael’ isod. Gallwch gwrdd â chi i gael sgwrs am y cymorth sydd ei angen arnoch, a gwneud beth allwn ni i droi eich syniadau’n weithredu effeithiol. I gael sgwrs ar lein neu wyneb yn wyneb, cysylltwch â’r Tîm Cyngor Cymunedol.  

Gallwn eich helpu gyda:

Bydd beth fyddwn ni’n ei ddarparu’n dibynnu ar eich anghenion chi a’ch grŵp.

Gweler ein tudalen aelodaeth i weld manteisio ymuno, a ffurflen gais.  

Cefnogaeth gan bobl a grwpiau eraill

Mae gan ein 550 a mwy o aelodau lawer o wybodaeth, sgiliau a phrofiad i’w rannu. Byddwn ni’n helpu grwpiau i ddod ynghyd a dysgu oddi wrth ei gilydd drwy gyfrwng rhwydweithiau, fforymau, neu drwy ymuno â chyfleoedd newydd i gydweithio. Cysylltwch â ni drwy ein manylion ar frig y dudalen i gymryd rhan.

Bydd y rhain yn cwrdd yn rheolaidd, Pan fyddwch chi ynddyn nhw, gallwch chi rannu gwybodaeth, cynhyrchu syniadau, clywed gan bartneriaid a chymryd rhan mewn gweithio gyda’ch gilydd i ddarparu gweithgareddau a gwasanaethau cymunedol newydd. Ein prif rwydweithiau a fforymau yw: 

  • Rhwydwaith Plant a Phobl Ifanc
  • Fforwm Iechyd Meddwl Cwm Taf
  • Rhwydwaith Rheoli Gwirfoddolwyr Cwm Taf
  • Grŵp Ymgynghorol Partneriaeth Gymunedol Leol
  • Y Rhwydwaith Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Llesiant

Dysgwch ragor amdanynt ac ymunwch drwy gyfrwng ein tudalen Ymgysylltu a Dylanwadu.

Gall cynnwys pobl wneud gwahaniaeth mawr i brosiect eich grŵp. Ar gyfer tîm bach, gall olygu:

  • cael gwell syniad am yr hyn sy’n cyfri i’ch cymuned
  • cael pobl sydd â’r sgiliau a’r profiad i helpu i ddatblygu a chyflawni eich prosiect
  • bod yn fwy creadigol drwy gynnwys pobl â syniadau gwahanol
  • recriwtio mwy o wirfoddolwyr i gefnogi eich gwaith
  • cael eraill i gynorthwyo gyda chynnal eich grŵp

Ar gyfer grŵp cyngor, bwrdd iechyd neu bartneriaeth, gallai olygu:

  • gofyn i bobl beth sy’n bwysig iddyn nhw a’u cymuned
  • gofyn i bobl sy’n derbyn gwasanaeth sut y gellid ei wneud yn well
  • darganfod pwy sy’n defnyddio parc lleol ac a hoffen nhw gymryd rhan mewn grŵp o natur ‘cyfeillion’ i helpu rheoli’r parc

I weld sut y gallwn ni gael pobl i gymryd rhan yn eich prosiect, neu os hoffech chi fod yn rhan o brosiect a gynhelir gan bartneriaid, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar frig y dudalen.

Rydyn ni’n cefnogi grwpiau i ddod o hyd i bartneriaid i weithio gyda nhw all helpu i ddatblygu cynlluniau a phrosiectau cryfach gyda nhw. Er enghraifft, fe allai hynny olygu dod o hyd i grŵp arall sy’n gweithio gyda phobl nad yw eich grŵp chi’n cyrraedd atynt ar hyn o bryd. Gallai gynnwys cysylltiadau mewn cyrff cyhoeddus fel y cyngor lleol neu’r bwrdd iechyd lleol, yn ogystal â grwpiau cymunedol a gwirfoddol eraill.

Rydyn ni’n datblygu perthynas ymysg grwpiau neu sefydliadau er mwyn iddyn nhw allu cynllunio prosiectau gyda’i gilydd o’r dechrau.

I drafod gweithio mewn partneriaeth, defnyddiwch ein manylion cyswllt ar frig y dudalen.