Ymgysylltiad a dylanwad

 

Rydyn ni’n cefnogi sefydliadau cymunedol a gwirfoddol i weithio ochr yn ochr â phobl a phartneriaid ac i ddatblygu perthynas â nhw. Gall y partneriaethau fod yn gyfrifol am gynnal gwasanaethau cyhoeddus fel y rhai a ddarperir gan y cyngor neu’r bwrdd iechyd. Byddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd i ddatblygu gweithgareddau, gwasanaethau a chyfleusterau lleol drwy:

  • ein Tîm Cyngor Cymunedol
  • ein rhwydweithiau
  • ein llwyfan cymunedol Cysylltu RCT
  • hybu gwerth ac effaith gweithgareddau a ddarperir gan grwpiau cymunedol a gwirfoddol
  • datblygu prosiectau a gwneud cais am gyllid
  • cefnogi cynrychiolwyr o’r gymuned a’r sector wirfoddol i fynychu partneriaethau strategol fel Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol y Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • datblygu perthynas rhwng sefydliadu cymunedol a sector gwirfoddol a sefydliadau sector cyhoeddus fel y cyngor neu’r bwrdd iechyd 

Ymuno â’n rhwydweithiau

Drwy ymuno â’n rhwydweithiau, gallwch chi:  

  • greu cysylltiadau newydd
  • clywed am beth mae eraill yn ei wneud yn lleol
  • cael cyfle i gymryd rhan mewn hyffordd, gweithgareddau a phrosiectau
  • clywed oddi wrth gyllidwyr am gyllid
  • dysgu am gyfleoedd ar gyfer gweithio gyda phartneriaid  

Mae’r rhwydwaith hwn yn cwrdd yn rheolaidd i drafod datblygiadau a chyfleoedd ar gyfer gweithio mewn partneriaeth. Ceir bwletin cysylltiedig sy’n cyfeirio at wasanaethau, digwyddiadau a chyfleoedd i blant sy’n wybyddus i’r rhwydwaith. Mae’n agored i bob grŵp am sefydliad sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd. Gallwch holi am ymuno drwy anfon e-bost at  Julie Edwards: jedwards@interlinkrct.org.uk.

Sefydlwyd fforwm iechyd meddwl newydd i ymdrin â bwrdeistrefi sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. Mae’r fforwm rhanbarthol hwn yn cyfarfod i drafod datblygiadau a chyfleoedd ble gall sefydliadau cymunedol a gwirfoddol gydweithio i wella gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant. Arweinir y fforwm gan sefydliadau cymunedol a gwirfoddol, ac rydyn ni, Voluntary Action Merthyr Tydfil a Chymdeithas Pen-y-bont ar Ogwr dros Sefydliadau Gwirfoddol hefyd yn cefnogi. Os ydych chi’n gorff cymunedol neu wirfoddol ac eisiau gwybod mwy, anfonwch e-bost at sthomas@interlinkrct.org.uk os gwelwch yn dda.

Mae’r wefan iechyd meddwl rhanbarthol yn darparu gwybodaeth am:

  • Gwasanaethau cefnogi iechyd meddwl. Mae ganddo gyfeiriadur gwasanaethau a gomisiynwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (CTUHB) i gynnig cefnogaeth gymunedol ar draws y tair bwrdeistref sirol.
  • Parth hunan-gymorth. Mae ardal hylaw o adnoddau defnyddiol i helpu cefnogi eich iechyd a’ch llesiant emosiynol.
  • Ein straeon. Ceir casgliad o straeon gan bobl go iawn sydd wedi defnyddio gwasanaethau cymunedol i gefnogi’u hiechyd meddwl.

Gwybodaeth iechyd meddwl Rhondda Cynon Taf
Rydyn ni’n darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth. Mae hyn yn cynnwys hybu trawstoriad o weithgareddau a chyfleoedd iechyd meddwl i sefydliadau cymunedol a gwirfoddol yn Rhondda Cynon Taf. Os oes angen yr wybodaeth hon arnoch chi neu os hoffech gael unrhyw gefnogaeth arall sy’n ymwneud â llesiant ac iechyd meddwl, anfonwch e-bost at sthomas@interlinkrct.org.uk os gwelwch yn dda. Gallwch hefyd gael mynediad i dudalennau llesiant y wefan hon a Cysylltu RCT am gefnogaeth.

Bwletinau rhwydwaith iechyd meddwl 

Gweler ein harchif o fwletinau iechyd meddwl.

Mae’r rhwydwaith hwn yn cwrdd i drafod datblygiadau a chyfleoedd ar gyfer gweithio mewn partneriaeth. Ceir bwletin cysylltiedig sy’n cyfeirio at wasanaethau, digwyddiadau a chyfleoedd sy’n wybyddus i’r rhwydwaith. Os ydych chi’n grŵp neu sefydliad iechyd meddwl gofynnwch am gael ymuno drwy anfon e-bost at volunteering@interlinkrct.org.uk

Rydyn ni’n hwyluso’r rhwydwaith sector gwirfoddol hwn. Mae’n agored i gydweithwyr cymunedol a sector gwirfoddol, ac mae’n llwyfan ar gyfer hybu gwasanaethau sector gwirfoddol lleol a rhanbarthol. Mae’n ymgysylltu’r sector ar ddatblygiadau strategol yn Rhondda Cynon Taf (RCT), ac ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

Mae’r rhwydwaith yn ymgasgliad o sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol sy’n gweithio ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant yn RCT. Drwy rannu gwybodaeth a chynnwys sefydliadau mewn ymgynghoriadau ac adolygiadau, dyma lais dros sefydliadau gwirfoddol. Hefyd, mae’n annog gweithio mewn partneriaeth.

Mae gan aelodau’r rhwydwaith:

  • negeseuon e-bost sy’n cynnwys newyddion rheolaidd am gyfleoedd i gael cyllid, hyfforddiant, cynadleddau arfer dda ac ymgynghoriadau ar bolisi a strategaeth
  • gwahoddiadau i ddigwyddiadau a grwpiau trafod, gan gynnwys rhwydweithio a chyflwyniadau ar faterion presennol
  • y cyfle i ymateb i ymgynghoriadau am iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant
  • y cyfle i weithredu fel cynrychiolwyr o’r sector gwirfoddol ar grwpiau cynllunio a strategol

Ymuno

Dewch yn aelod drwy anfon e-bost at amorris@interlinkrct.org.uk

Bwletinau

Gweld ein harchif o fwletinau cydlynwyr llesiant .

Ymgysylltu a dylanwadu ar bobl drwy Cysylltu RCT

 

‘Cysylltu RCT’ yw rhwydwaith cymdeithasol Rhondda Cynon Taf ar gyfer grwpiau gwirfoddol a chymunedol. Gallwch rwydweithio â grwpiau eraill a phawb sy’n byw yn RCT sydd eisiau gwneud pethau yn eu cymuned. Maen lle gwych ar gyfer ymgysylltu â phobl a sefydliadau, er enghraifft er mwyn cynnal trafodaethau neu bolau piniwn ar y safle.

Rhowch eich grŵp a’ch gweithgareddau ar Cysylltu

Cael cefnogaeth o ran dylanwadu neu ymgysylltu

 

Mae ein Tîn Cyngor Cymunedol (CAT) yma i’ch cynorthwyo i wneud newidiadau. Cysylltwch â nhw i gael cymorth rhad ac am ddim:

 

Cysylltu

CAT

E: info@interlinkrct.org.uk

T: 01443 846200

Dolenni a thaflenni gwybodaeth am ymgysylltu a dylanwadu

Gwybodaeth gefndirol ar gyfer dylanwadu ar lesiant yn lleol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (FGA) wedi trawsnewid gwaith y sector gymunedol a gwirfoddol. Mae’n hybu gweithio’n fwy cynaliadwy drwy gyfrwng pum dull o wneud pethau, sef:

  • cynllunio hirdymor
  • gweithredu’n gynt i atal problemau’n ddiweddarach
  • edrych ar y darlun cyfan ac integreiddio pethau’n well
  • cynnwys pobl
  • gweithio ar y cyd

Mae gan Fwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus (PSB) Cwm Taf gyfrifoldeb i sicrhau fod cyrff cyhoeddus a’r trydydd sector yn gweithio gyda’i gilydd i gynllunio a mynd i’r afael â phroblemau lleol pwysig. Mae hyn er mwyn bod o fudd i bobl a chymunedau lleol. Mae’r PSB yn gweithio ar Gynllun Llesiant cyfun i adnabod sut y byddan nhw’n gwneud hyn, a byddwn ni’n helpu’r gymuned a’r sector gwirfoddol i lunio a darparu’r cynllun.  

Mae gwefan Ein Cwm Taf yn dangos pwy sy’n gwneud beth, ac yn rhoi mwy o wybodaeth am y bartneriaeth hon. 

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn helpu i gefnogi pobl gael gwell gofal iechyd a gofal cymdeithasol, Mae’n cael ei amlinellu yn y Cynllun Ardal neu Ranbarth (SSWB), y mae’r Bwrdd Partneriaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn gyfrifol amdano. Mae’n canolbwyntio ar gynnwys pobl a chymunedau, a gweithredu’n gynnar i atal problemau rhag gwaethygu.

Mae gwaith dylanwadu a phartneriaeth yn cael ei adeiladu ar sail pobl yn gwrando ar ei gilydd a pharchu’i gilydd. Po fwyaf da y gallwn ni ddeall, gwrando a chydweithio, y mwyaf fydd y gwahaniaeth y gallwn ni ei wneud.