Newyddion
Argyfwng ynni mewn cyfleusterau cymunedol
Written by william | Published on 30th June 2022
Oes angen help arnoch chi i leihau eich biliau ynni?
Rydyn ni yma i’ch helpu gyda chostau ynni mewn adeiladau cymunedol. Mae prisiau a’r defnydd o ynni wedi codi’n enfawr, ac maen nhw ar fin mynd drwy’r to dros y gaeaf i ddod. Mae Interlink RCT yn gweithio i ddarparu cefnogaeth a chyllid i gwblhau archwiliadau ynni, derbyn cyngor a darparu arian ar gyfer gwneud gwaith cyfalaf ar raddfa fechan gydag:
- Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo
- Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd
- CBSRCT
- Asiantaeth Ynni Hafren Gwy
Ond mae angen i ni wybod pwy sydd angen help! Dewch cyn y dorf, peidiwch â’i gadael yn rhy hwyr, a chysylltwch nawr. E-bostiwch communityadvice@interlinkrct.org.uk neu ffoniwch 01443 846200.
Credyd llun: llun gan he gong ar Unsplash.