Newyddion

Argyfwng ynni mewn cyfleusterau cymunedol

Oes angen help arnoch chi i leihau eich biliau ynni?

Rydyn ni yma i’ch helpu gyda chostau ynni mewn adeiladau cymunedol. Mae prisiau a’r defnydd o ynni wedi codi’n enfawr, ac maen nhw ar fin mynd drwy’r to dros y gaeaf i ddod. Mae Interlink RCT yn gweithio i ddarparu cefnogaeth a chyllid i gwblhau archwiliadau ynni, derbyn cyngor a darparu arian ar gyfer gwneud gwaith cyfalaf ar raddfa fechan gydag:

  • Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo
  • Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd
  • CBSRCT
  • Asiantaeth Ynni Hafren Gwy

Ond mae angen i ni wybod pwy sydd angen help! Dewch cyn y dorf, peidiwch â’i gadael yn rhy hwyr, a chysylltwch nawr. E-bostiwch communityadvice@interlinkrct.org.uk neu ffoniwch 01443 846200.

 

Credyd llun: llun gan he gong ar Unsplash.

Nôl i Newyddion