Newyddion

Cyfle swydd: Swyddog Marchnata a Hyrwyddo

Helpwch hybu gwaith Interlink RCT a’n haelodau. Hoffem i chi ymgeisio os ydych chi ar dân dros weithio law yn llaw â chymunedau, yn greadigol, ac yn meddu ar brofiad marchnata a hyrwyddo sylweddol.
Cyflog: SCP 20, 26,446 (£26,975 o fis Hydref 2022).
Oriau: 37 awr, ystyrir rhannu swydd neu ran amser.
Cytundeb: Parhaol (yn ddibynnol ar dderbyn cyllid).
Lleoliad: RCT.

I wneud cais:

Mae Interlink RCT yn ymroddedig i greu amgylchedd amrywiol ac mae’n falch o fod yn gyflogwr cyfle cyfartal ac anabledd hyderus. Bydd pob ymgeisydd yn cael ei ystyried yn ofalus am gyfweliad. Cyflwynwch eich ffurflen gais a’i hanfon at: recruitment@interlinkrct.org.uk

Os oes angen unrhyw wybodaeth arnoch mewn fformat arall neu os oes angen rhagor o wybodaeth neu gymorth arnoch, e-bostiwch recruitment@interlinkrct.org.uk

I gael rhagor o wybodaeth gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb person, e-bostiwch recruitment@interlinkrct.org.uk.

Dyddiad cau: 9am 28/07/22.

 

Credyd llun: Llun gan Slidebean ar Unsplash.

Nôl i Newyddion