Newyddion
Cynllun Grant y Trydydd Sector (Gofal Dementia)
Written by jamie | Published on 08th March 2024
Grantiau Bach:
Mae grantiau o hyd at £150,000 y flwyddyn am gyfnod dosbarthu o 2 flynedd ar gael ar gyfer prosiectau dan arweiniad grwpiau/sefydliadau gwirfoddol a chymunedol sydd wedi’u lleoli ac yn gweithio ym, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful neu Mhen-y-bont ar Ogwr.
Diben:
- Brwydro yn erbyn unigrwydd ac arwahanrwydd pobl sy’n byw gyda dementia, eu teulu a’u gofalwyr
- Atal mynediad diangen at wasanaethau statudol/rhyddhau cymorth
- Cefnogi grwpiau buddiolwyr i gynnal eu hiechyd, lles ac annibyniaeth
- Helpu sefydliadau cymunedol a gwirfoddol i feithrin capasiti
Ar gyfer pwy?
Bydd angen i brosiectau gefnogi un neu fwy o’r grwpiau buddiolwyr canlynol:
- Pobl sy’n byw gyda Dementia
- Gofalwyr/Teuluoedd pobl sy’n byw gyda dementia
Dogfennau Pwysig:
Dyddiad cau:
- 5pm, Dydd Iau 28ain Mawrth 2024
Manylion cyswllt:
Am fwy o wybodaeth cysylltwch:
- Anne Morris – Interlink RCT: 07736 587912 or amorris@interlinkrct.org.uk
- Karen Vowles – VAMT: 07503 954158 or karen.vowles@vamt.net
- Laura Dadic – BAVO: 01656 810400 or lauradadic@bavo.org.uk