Newyddion
Mwy o gyfleoedd i wifoddoli yn Gymraeg
Written by william | Published on 25th February 2022
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn dod i RhCT yn 2024. Dros y ddwy flwydd nesaf, bydd llawer o gyfleoedd i wirfoddoli yn y gymuned, ac ar y llwyfan cenedlaethol yn ystod yr ŵyl ei hun.
Mae Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, yn falch i weithio gyda’r tîm yn Interlink RCT, a dwedodd hi:
“Yr ydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’i gilydd dros y ddwy flwydd nesaf i hyrwyddo cyfleoedd ynghylch wirfoddoli Cymraeg lleol i’r bobl RhCT a chynnwys pobl leol yn gwirfoddoli ar gyfer yr Eisteddfod trwy ein prosiect cymunedol a’r ŵyl ei hun.”
“Yr ydym eisiau cynnig cyfleoedd gwych i bobl o bob oedran ac o’r bob cornel Rhondda, Cynon a Thaf – dewch ac ymuno â ni a rhoi cynnig i wirfoddoli yn Gymraeg. Bydden ni’n ddwli ar gael chi fel rhan o’r tîm a rydych chi wastad wedi siarad Cymraeg, rydych chi’n ddysgwr newydd neu dydy’r Gymraeg ddim wedi bod rhan o’ch trefn feunyddiol ers sbel. Yr ydym yn edrych ymlaen at hyrwyddo ein holl gyfleoedd gwirfoddoli â Interlink RhCT yn fuan iawn.”
Cyfleoedd gwirfoddoli yn Gymraeg
Edrych ar gyfleoedd gwirfoddoli lleol ar Wirfoddoli Cymru a Connect RCT. Er mwyn gweld cyfleoedd gwirfoddoli Cymraeg, gwasgwch yr hidlwr Cymraeg yn yr ardal hygyrchedd.