Newyddion
Pleidleisio’n dechrau ar gyfer Gwobrau ‘Yr Ail Filltir’
Written by william | Published on 04th May 2022
Mae’r bleidlais i ddod o hyd i grwpiau neu sefydliadau cymunedol a aeth ‘yr Ail Filltir’ yn ystod y pandemig wedi agor. os ydych chi’n aelod o Cysylltu RCT, gallwch bleidleisio yn y pôl hwn a fydd yn anrhydeddu’r grwpiau a aeth yr ail filltir ar adeg anodd iawn. Bydd yr enillydd yn derbyn £1000, gyda’r ail yn cael £500 a’r trydydd yn hawlio £250. Bydd y bleidlais yn cau ar 31/05/22.
Gellir gwario arian y wobr er mwyn hyrwyddo amcanion y grŵp neu sefydliad mewn unrhyw ffordd a ddymunant. Meddyliwch beth ellid ei wneud â’r arian! Cyhoeddir enwau’r enillwyr yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr rhwng 1 a 6 Mehefin.
Pleidleisiwch ar Cysylltu RCT
Os hoffech bleidleisio, ond nad ydych chi ar Cysylltu RCT, mae’n rhad ac am ddim i gofrestru, ac mae’n hawdd. Dewch yn aelod o Cysylltu RCT, a phleidleisiwch yn y pôl ar gyfer y Gwobrau ‘Yr Ail Filltir’.
Y rhai a enwebwyd yw:
Dyma’r rhestr derfynol o bawb a enwebwyd:
- Artis Community Cymuned
- Blaenllechau Youth Project
- Cwm Taf Care and Repair
- Cwm Taf Morgannwg Mind
- Cynon Valley Organic Adventure
- Follow Your Dreams/Charity
- Men’s Shed Tynewydd
- Mothers Matter CIC
- Pontyclun Bosom Pals Breast Cancer Support Group
- RCT People First
- RCT Photomarathon
- Rhondda Foodbank
- Rhondda Litter Pickers and Environment
- Rhondda Radio
- Rhydyfelin Community Group
- Valley Veterans
Ffyrdd y gallent fod wedi mynd ‘yr ail filltir’
Dyw hon ddim yn rhestr gyflawn o’r ffyrdd y gallai grŵp neu sefydliad fod wedi mynd yr ail filltir, ond efallai yr hoffech bleidleisio dros grŵp neu sefydliad gydag aelodau sydd wedi:
- gwirfoddoli am oriau maith
- bod yn ddyfeisgar iawn â’r hyn oedd ganddyn nhw
- cyflawni er gwaetha’r anawsterau a achoswyd gan y pandemig
- bod yno ar gyfer pobl fregus pan nad oedd neb arall ar gael
- llenwi bylchau mewn cefnogaeth gymdeithasol