Newyddion

Cyfle swydd: Cydlynydd Llesiant

Teitl y swydd: Cydlynydd Llesiant.
Cyflog: £26 975 yn codi i £27 514 ar ôl cwblhau cyfnod prawf llwyddiannus.
Oriau: 37 awr.
Lleoliad: Allgyrraedd ledled RCT.

Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl? Hoffai Interlink RCT glywed oddi wrthych!

Rydyn ni’n gobeithio ymestyn ein tîm deinamig presennol o Gydlynwyr Llesiant ar draws Rhondda Cynon Taf. Mae gennym dair swydd llawn amser ar gael (ac un ohonynt yn swydd cyfnod mamolaeth dros dro).

Bydd cydlynwyr llesiant yn gweithio gydag unigolion i’w galluogi i gymryd mwy o reolaeth dros eu hiechyd a’u llesiant eu hunain, a mynd i’r afael â’u hanghenion drwy weld beth yw eu diddordebau, a’u cysylltu â gweithgareddau, grwpiau a gwasanaethau yn y gymuned.

Os ydych chi ar dân dros wneud gwahaniaeth, ac mae gennych y sgiliau a’r profiad, ac os hoffech wneud cais, cliciwch ar y ddolen hon i gael y disgrifiad swydd / manyleb y person a ffurflen gais.

Mae Interlink RCT wedi ymrwymo i greu amgylchedd amrywiol ac mae’n falch o fod yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal a hyder gydag anabledd. Bydd pob cais yn derbyn ystyriaeth ofalus ar gyfer cael cyfweliad.

Os oes angen unrhyw wybodaeth arnoch mewn fformat amgen, neu os hoffech gael unrhyw wybodaeth neu gymorth pellach, cysylltwch â recruitment@interlinkrct.org.uk.

Dyddiad cau gwneud cais: hanner dydd, dydd Gwener 30 Medi 2022.
Dyddiad y cyfweliad: Dydd Llun 10 Hydref 2022.

Nôl i Newyddion