Newyddion

SWYDD WAG: Cydlynydd Llesiant (X2)

  • Teitl swydd: Cydlynydd Llesiant X2
  • Cyflog: SCP 21, £28,900 (£29,439 ar ôl cwblhau cyfnod prawf)
  • Oriau: 37 awr
  • Lleoliad: RCT

 

Mae Interlink RCT yn gyflogwr rhagorol ac rydym ni’n gwerthfawrogi pawb yn ein tîm, a’u llesiant. Rydyn ni’n darparu amgylchedd gweithio ardderchog, gwaith sy’n rhoi boddhad ac sy’n gwneud gwahaniaeth gyda phobl a chymunedau, pensiwn digyfraniad 8%, 30 diwrnod o wyliau blynyddol, addysg a datblygu ac Awr Lesiant wythnosol.

Mae gennym ddwy swydd wag lawn amser ar gael i ymuo â’n tîm presennol o Gydlynwyr Llesiant deinamig ledled Rhondda Cynon Taf.   (Mae un o’r swyddi ar sail darparu swydd cyfnod mamolaeth dros dro).

Bydd cydlynwyr llesiant yn gweithio gydag unigolion i’w galluogi i gymryd mwy o reolaeth dros eu hiechyd a’u lles eu hunain a mynd i’r afael â’u hanghenion drwy amlygu’u diddordebau a’u cysylltu â gweithgareddau, grwpiau a gwasanaethau yn y gymuned.

Os ydych chi’n teimlo’n angerddol dros wneud gwahaniaeth, os oes gennych chi’r sgiliau a’r profiad, ac os hoffech wneud cais, cliciwch ar y ddolen hon i weld y disgrifiad swydd / manyleb y person a’r ffurflen gais.

 

Important Documents:

 

I Wneud Cais:

Mae Interlink wedi ymrwymo i greu amgylchedd amrywiol ac mae’n falch o fod yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal a hyderus o ran anabledd. Bydd pob ymgeisydd yn derbyn ystyriaeth ofalus ar gyfer cael cyfweliad.

A fyddech cystal ag anfon CV ynghyd â llythyr cyflwyno sy’n amlinellu eich sgiliau, eich profiad a sut rydych chi’n ateb cymwyseddau’r swydd, dan y pennawd ‘Recriwtio’ at: recruitment@interlinkrct.org.uk

Os hoffech gael unrhyw wybodaeth ar ffurf amgen, neu os oes angen unrhyw wybodaeth neu gymorth pellach arnoch, cysylltwch â recruitment@interlinkrct.org.uk

 

DYDDIAD CAU: 15 Tachwedd 23 CANOL DYDD

DYDD CYNNAL CYFWELIADAU: 22 Tachwedd 23

 

Nôl i Newyddion