Newyddion

SWYDD WAG: Swyddog Datblygu Iechyd Meddwl

  • Teitl swydd: Swyddog Datblygu Iechyd Meddwl
  • Cyflog: SCP 21, £28,900 (£29,439 ar ôl cwblhau cyfnod prawf)
  • Oriau: 37 awr
  • Cytundeb: Parhaol (yn ddibynnol ar gyllido)
  • Lleoliad: RCT

 

Mae Interlink RCT yn gyflogwr rhagorol ac rydym ni’n gwerthfawrogi pawb yn ein tîm, a’u llesiant. Rydyn ni’n darparu amgylchedd gweithio ardderchog, gwaith sy’n rhoi boddhad ac sy’n gwneud gwahaniaeth gyda phobl a chymunedau, pensiwn digyfraniad 8%, 30 diwrnod o wyliau blynyddol, addysg a datblygu ac Awr Lesiant wythnosol.

Dyma gyfle i ymuno â’n Tîm Llesiant deinamig fel Swyddog Datblygu Iechyd Meddwl. Byddwch chi’n canolbwyntio ar ddatblygu perthynas â sefydliadau sector gwirfoddol, grwpiau cymunedol a phartneriaid a rhoi cefnogaeth heb ei ail iddynt i ddatblygu gwasanaethau arloesol. Os ydych chi’n rhywun sy’n chwilio am her, sy’n mwynhau cydweithio ac sy’n ffynnu mewn amgylchedd deinamig sy’n datblygu, ymgeisiwch heddiw.

 

Important Documents:

 

I Wneud Cais:

Mae Interlink wedi ymrwymo i greu amgylchedd amrywiol ac mae’n falch o fod yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal a hyderus o ran anabledd. Bydd pob ymgeisydd yn derbyn ystyriaeth ofalus ar gyfer cael cyfweliad.

A fyddech cystal ag anfon CV ynghyd â llythyr cyflwyno sy’n amlinellu eich sgiliau, eich profiad a sut rydych chi’n ateb cymwyseddau’r swydd, dan y pennawd ‘Recriwtio’ at: recruitment@interlinkrct.org.uk

Os hoffech gael unrhyw wybodaeth ar ffurf amgen, neu os oes angen unrhyw wybodaeth neu gymorth pellach arnoch, cysylltwch â recruitment@interlinkrct.org.uk

 

DYDDIAD CAU: 15 Tachwedd 23 CANOL DYDD

DYDD CYNNAL CYFWELIADAU: 22 Tachwedd 23

 

Nôl i Newyddion