Newyddion

SWYDD WAG: Swyddog Marchnatat a Chyfathrebu

Arweiniwch ar farchnata Interlink RCT a chyfathrebu â’n 650 o aelodau. Gwnewch gais os ydych chi’n teimlo angerdd dros weithio law yn llaw â chymunedau, os ydych chi’n greadigol, ac os oes gennych chi brofiad ym maes hybu a chyfathrebu. 

 

  • Teitl y Swydd: Swyddog Marchnatat a Chyfathrebu
  • Oriau: 37 awr, ystyrir rhannu swydd neu ran amser.  
  • Rheolwr Llinell: Rheolwr Cyngor Cymunedol  
  • Cyflog: Graddfa NJC pwynt 21 (£30,825); yn codi i Bwynt Graddfa 22 (£31,364) ar ôl cwblhau cyfnod prawf llwyddiannus.  
  • Lleoliad: Gweithio yn y gymuned ac o hirbell yn RCT. Mae gan Interlink swyddfa ym Mhontypridd. 

 

Yn Interlink RCT rydyn ni’n darparu gwaith gwerth chweil gyda phobl a chymunedau, ac rydyn ni wedi ymrwymo i lesiant, cefnogaeth a dysgu a datblygu pawb yn ein tîm bach. Rydyn ni’n darparu pensiwn di-gyfraniad 8% a 30 diwrnod o wyliau blynyddol, ynghyd ag amgylchedd gweithio hyblyg. 

Mae Interlink yn gyflogwr Diwylliannol Gymwys ac Anabledd Hyderus. Bydd pob ymgeisydd yn derbyn ystyriaeth ofalus ar gyfer cael eu cyfweld. I gael pecyn ymgeisio sy’n cynnwys disgrifiad o’r swydd a chymwyseddau ar gyfer y swydd, ewch i www.interlinkrct.org.uk neu e-bostiwch recruitment@interlinkrct.org.uk 

 

I YMGEISIO:

Anfonwch eich CV ynghyd â llythyr cyflwyn byr nad yw’n hirach na 500 o eiriau, yn dweud wrthym sut y bydd eich sgiliau a’ch profiad yn eich galluogi i lwyddo yn y swydd hon, at recruitment@interlinkrct.org.uk.   

Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach neu gymorth arnoch, neu os hoffech gael yr wybodaeth mewn ffurf amgen, cysylltwch â recruitment@interlinkrct.org.uk 

 

Dogfennau pwysig:

 

  • DYDDIAD CAU: Gwener, 2 Awst 2024
  • DYDD Y CYFWELIAD: Wythnos yn dechrau ar 12 Awst 2024 

 

Nôl i Newyddion