Bydd pwyllgor neu ymddiriedolwyr eich grŵp yn gwneud llawer o benderfyniadau. Yr enw am bwy sydd yn eich grŵp a sut mae eich grŵp yn gwneud penderfyniadau yw llywodraethiant. Mae llywodraethiant da’n creu diwylliant ble bydd popeth yn gweithio tuag at gyflawni gweledigaeth eich grŵp. Gall llywodraethinat gynnwys pethau fel eich rheolau neu gyfansoddiad, eich polisïau, asesu risg, rheoli eich cyllid a’ch staff.
Mae rhai gofynion cyfreithiol ar gyfer llywodraethiant hefyd. Er mwyn i chi gael popeth yn iawn, mae sawl taflen wybodaeth isod. Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes unrhyw beth yn peri dryswch, neu’n ormod i’w gymryd i mewn. Byddwn ni’n falch o’ch tywys drwy’r cyfan. Hefyd, gallwn ddarparu hyfforddiant a chefnogaeth gan gyfoedion i helpu gyda’ch llywodraethiant.
Y Tîm Cyngor Cymunedol
T: 01443 846200