Gwirfoddoli yw anadl einioes cymunedau a grwpiau gwirfoddol. Amcangyfrifir fod 60% o bobl RCT – rhyw 140,000 o bobl, nifer anhygoel – yn gwirfoddoli boed hynny mewn grŵp neu drwy helpu cymdogion.
Gallwch wirfoddoli drwy ein rhwydwaith drwy gysylltu â sefydliadau a restrir yn ein bwletin gwirfoddoli. Mae cyfleoedd gwirfoddoli ar ein gwefan Connect RCT hefyd.
I gael sgwrs anffurfiol am y math o swydd wirfoddoli a allai fod yn addas i chi, cysylltwch ag aelod i’r Tîm Cyngor Cymunedol.
Y Tîm Cyngor Cymunedol
E: volunteering@interlinkrct.org.uk
T: 01443 846200
Mae gwirfoddoli’n ffordd o:
Gallai hynny olygu eich bod chi’n cael:
Beth bynnag sy’n eich diddori, a phwy bynnag ydych chi, gallwch ddod o hyd i’r cyfle cywir gyda ni. Dyma daflen wybodaeth ddefnyddiol os ydych chi’n ystyried gwirfoddoli ond ddim yn siŵr ble i ddechrau.
I gael sgwrs anffurfiol am y math o wirfoddoli a allai fod yn addas i chi, cysylltwch ag aelod o’r Tîm Cyngor Cymunedol.
Y Tîm Cyngor Cymunedol
E: volunteering@interlinkrct.org.uk
T: 01443 846200
Mae Gwirfoddoli Cymru’n rhestru’r cyfleoedd gwirfoddoli diweddaraf o ran COVID-19 yn eu hadran chwilio coronafeirws. Hefyd, rydyn ni wedi bod yn recriwtio gwirfoddolwyr i gefnogi cymunedau drwy’r pandemig. Cysylltwch â ni os hoffech wirfoddoli neu recriwtio gwirfoddolwyr gyda’n cefnogaeth ni:
E: volunteering@interlinkrct.org.uk.
T: 01443 846200.
Os ydych chi’n adnabod rhywun a hoffai wirfoddoli, ac sydd wedi rhoi’u caniatâd, dywedwch wrthym, a rhowch eu manylion cyswllt i ni. Byddwn ni’n cynorthwyo pobl o gefndiroedd sy’n ei chael hi’n fwy anodd cael lleoliad gwirfoddoli er mwyn gwella’u llesiant neu’u cyflogadwyedd. Hefyd, rydyn ni’n cefnogi pobl i wirfoddoli drwy gyfrwng Prifysgol De Cymru a thrwy raglen baccalaureate Cymru eu hysgolion. Yn ogystal byddwn ni’n helpu sefydliadau gan gynnwys Canolfan Byd Gwaith i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli i bobl fel llwybr i gael gwaith.
E: volunteering@interlinkrct.org.uk
T: 01443 846200.