Mae Interlink RCT yn elusen a arweinir gan ei haelodau, gyda thros 550 sefydliad cymunedol a gwirfoddol yn Rhondda Cynon Taf. Mae ein prif weithgareddau’n ymwneud â:
Interlink RCT yw’r Cyngor Gwirfoddol Sirol (CVC) ar gyfer Rhondda Cynon Taf. Mae ein haelodau’n amrywio o grwpiau cymunedol bach i elusennau mawr, ac rydyn ni wrth ein bodd yn gweithio gyda phob un ohonynt.
Byddwn ni’n gweithio ochr yn ochr â grwpiau a sefydliadau lleol, er mwyn iddyn nhw allu arwain, cysylltu dylanwadu ar a chryfhau’u cymunedau’n well. Er mwyn gweithredu’n gymdeithasol mewn dull cadarnhaol o ran beth sy’n cyfri, byddwn ni’n eu cefnogi i adeiladu ar eu hasedau – pobl, adeiladau a thir. Byddwn ni’n gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid i gynyddu effaith a thyfu adnoddau.
Mae gwella sut mae pobl yn teimlo amdanyn nhw’u hunain a’u cymuned yn golygu pawb yn gweithio gyda’i gilydd i adeiladu ymddiriedaeth, parch a dealltwriaeth.
Mae gwirfoddoli, cynnwys y gymuned a gweithredu’n arwain at gymunedau cysylltiedig a gwydn, ble bydd pobl yn cael eu trin yn deg, yn mwynhau iechyd da ac yn meddu ar yr adnoddau sydd eu hangen arnynt.
Fel CVC, mae Interlink RCT yn aelod o Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Maen nhw’n darparu gwasanaeth cyffredinol ar draws Cymru’n seiliedig ar gefnogi’r pedwar piler canlynol: