Newyddion

SWYDD WAG: Arweinydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth A Chynhwysiant (Diwrnod yr wythnos)

  • Teitl y swydd: Arweinydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
  • Cyflog: £6,967 (£34,834 pro-rata)
  • Oriau: 7.4 awr
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf (RCT)

 

Mae Interlink RCT yn gyflogwr eithriadol, gydag amgylchedd gweithio cadarnhaol, ble rhoddir gwerth ar lesiant pawb yn ein Tîm.

Mae gennym gyfle anarferol i ymuno â’n Tîm fel Arweinydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Bydd y rôl yn datblygu ein Cymhwysedd Diwylliannol a’n huchelgais o ran yr iaith Gymraeg, gan gynnwys ymwneud â’r Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf.

Os ydych chi’n angerddol ac yn meddu ar y sgiliau a’r profiad perthnasol, cliciwch ar y ddolen hon i gael disgrifiad swydd / manyleb y person a ffurflen gais. (link here)

 

Dogfennau pwysig:

 

I ymgeisio:

Mae Interlink wedi ymrwymo i greu amgylchedd amrywiol ac mae’n falch o fod yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal a hyderus yn wyneb anableddau. Bydd pob ymgeisydd yn derbyn ystyriaeth ofalus o ran cael eu cyfweld.

Cyflwynwch CV a llythyr cyflwyno byr nad yw’n hirach na 250 o eiriau, i amlinellu pam rydych chi’n addas ar gyfer y swydd, at ‘Recriwtio’: recruitment@interlinkrct.org.uk

Os oes angen unrhyw wybodaeth arnoch mewn ffurf amgen neu os hoffech gael mwy o wybodaeth neu gymorth, cysylltwch os gwelwch yn dda â: recruitment@interlinkrct.org.uk

 

  • DYDDIAD CAU: 5.00pm 2 Mai 2024
  • DYDDIAD CYFWELD: 9 Mai 2024

 

Nôl i Newyddion