Cyllid a chodi arian

Cyllid

Goroesi Covid-19

Interlink RCT

Micro-grantiau i ailddechrau gweithgareddau cymunedol

Bob chwarter, rydyn ni’n cynnig micro-grantiau werth £250 i gefnogi sefydliadau a arweinir gan wirfoddolwyr i dalu am gostau ychwanegol ailagor gweithgareddau cymunedol. Fe all hyn gynnwys eitemau fel PPE a chostau eraill y gallai fod arnoch angen eu talu.

I wneud cais am arian, anfonwch e-bost atom os gwelwch yn dda gan roi gwybod i ni ar gyfer beth rydych chi eisiau’r arian at grants@interlinkrct.org.uk.

F I gael unrhyw gyngor a chefnogaeth bellach, e-bostiwch info@interlinkrct.org.uk neu ffoniwch 01443 846200 os gwelwch yn dda.

Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen-Y-Cymoedd

Mae’r gronfa hon yn parhau i fod ar agor ar gyfer busnes Mae’n cefnogi cymoedd ym Mlaenau Cwm Rhondda a Blaenau Cwm Cynon yn RCT. Ar hyn o bryd mae’r gronfa hon yn weithredol: 

  • Mae’r Gronfa Weledigaeth ar gael i broseictau sy’n werth dros £25k. Mae’n parhau ar agor a’r cam cyntaf ar gyfer unrhyw un sydd eisiau gwneud cais yw cysylltu â thîm Pen-Y-Cymoedd. 

Gweld i ble mae ardal fantais Pen y Cymoedd yn ymestyn..

I drafod syniadau gellir cysylltu â Kate Breeze a Michelle Nobel dros e-bost: enquiries@penycymoeddcic.cymru neu â’r rhifau symudol canlynol:
Mobile: 07458 300 123
Mobile: 07458 300 117

Gallwch drafod cynigion hefyd drwy gyfrwng y Tîm Cefnogi Cymunedau:

Ymddiriedolaeth Newby

Ymddiriedolaeth fach deuluol yw’r sefydliad hwn sy’n rhoi grantiau i elusennau ym meysydd eang addysg a llesiant cymdeithasol a meddygol. Dysgu mwy ar wefan Ymddiriedolaeth Newby .

Y Loteri Genedlaethol

Mae Gwobrau i Bawb a Gwobrau Pobl a Lleoedd y Loteri Genedlaethol yn para ar agor drwy’r dolenni isod. Byddan nhw’n blaenoriaethu ceisiadau sy’n ymwneud â COVID-19. Mae hyn yn golygu y byddan nhw’n blaenoriaethu ceisiadau oddi wrth: 

  • sefydliadau sy’n cefnogi pobl sydd mewn perygl mawr gan COVID-19
  • Sefydliadau sy’n cefnogi cymunedau sydd fwyaf tebygol o wynebu mwy o alw a heriau oherwydd mesurau i atal canlyniadau COVID-19
  • Sefydliadau â’r potensial mawr i gefnogi cymunedau sy’n wynebu effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol COVID-19  

Cyngor os ydych chi’n ystyried gwneud cais am gyllid loteri. .
Gweld holl raglenni’r loteri genedlaethol .
Ymweld â thudalen Pobl a Lleoedd: Grantiau Canolig .
Ymweld â thudalen Gweithredu Cymunedol dros yr Amgylchedd.
Nadia yw cynrychiolydd lleol y Loteri Genedlaethol.
E-bost: Nadia.Bogdan@tnlcommunityfund.org.uk.

Cronfa Syniadau ac Arloeswyr (Sefydliad Paul Hamlyn)

Mae’r Gronfa Syniadau ac Arloeswyr yn cefnogi pobl sydd â syniadau anarferol neu radical i wella cyfleoedd bywyd a chyfle pobl yn y DU.  Darllen mwy ar wefan Sefydliad Paul Hamlyn.

Rhaglen Gynhwysiant Weithredol COVID-19

Mae gan yr WCVA broses ymgeisio fwy chwim ar gyfer eu rhaglen Cynhwysiant Gweithredol COVID-19. Gellir ariannu 80% o gostau prosiect drwy grant, ond bydd angen i 20% o’r costau gael eu canfod gan eich sefydliad. Cyfanswm costau prosiect y gellir eu hariannu yw £25k. Bydd angen i ymgeiswyr fod ar y Rhestr Buddiolwyr Cymeradwy. I gael mwy o wybodaeth ewch i dudalen yr WCVA am y Gronfa Gynhwysiant Gweithredol i Covid-19.

Cronfa Cymru Actif

Ydy COVID-19 wedi effeithio ar eich gweithgareddau chwaraeon lleol? Gallwch wneud cais nawr am grant drwy Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru i sicrhau fod eich prosiect yn goroesi’r pandemig, neu i baratoi eich gweithgaredd ar gyfer ailddechrau’n ddiogel.   Ymweld â gwefan Cronfa Cymru Actif.

Sefydliad Foyle

Cynlluniwyd Cynllun Grantiau Bach y sefydliad i gefnogi elusennau a gofrestrwyd ac sy’n gweithredu yn y Deyrnas Unedig. Mae’n arbennig ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ar lefel llawr gwlad a chymuned leol mewn mannau a effeithiwyd gan COVID-19, mewn unrhyw faes, ar draws ystod eang o weithgareddau.

Nodwch os gwelwch yn dda na allant gefnogi unigolion. Gellir derbyn ceisiadau ar lein gan elusennau sydd â throsiant blynyddol llai na £150k y flwyddyn. Ni fydd elusennau mwy o faint na chenedlaethol yn cael eu hystyried ar gyfer y cynllun hwn fel arfer. Bydd eu ffocws ar wneud grantiau un flwyddyn yn unig:

  • i dalu costau craidd neu offer hanfodol
  • galluogi
    • darpariaeth gwasanaeth parhaus
    • gweithio gartref
    • darparu gwasanaethau digidol ar lein i elusennau sy’n gallu dangos eu bod nhw’n ariannol sefydlog

Ymweld â thudalen we Cynllun Grantiau Bach Sefydliad Foyle .

Greggs

Mae’r sefydliad yn cynnig grantiau clwb brecwast. I gael mwy o wybodaeth ewch i dudalen Sefydliad Greggs.

Adferiad Banc Lloyds 

Mae’r gronfa ar agor i elusennau bach a chanolig eu maint. Diweddarir gwybodaeth yn rheolaidd. Ewch i dudalen  Adferiad Banc Lloyds.

Cronfa Gymorth COVID-19 Moondance 

Cafodd y gronfa hon ei chreu i helpu elusennau Cymru i barhau â’u gweithrediadau yn ystod argyfwng COVID-19. Mae cyllid ar gyfer elusennau cofrestredig sy’n gweithio yng Nghymru i helpu â:

  • cadw staff
  • gweithgareddau a gwasanaethau presennol sydd mewn perygl
  • esblygu gwasanaethau i addasu i’r argyfwng presennol

Mae Moondance yn annog y rheiny sydd wir mewn angen yn unig i ymgeisio.

Dysgu mwy ar wefan Moondance.

Clybiau chwaraeon yn y gymuned yn ystod COVID-19

Mae Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru’n darparu cyllid ar gyfer chwaraeon cymunedol yng Nghymru. Dysgu mwy ar dudalen grantiau Chwaraeon Cymru.

Cronfa Ymateb Covid-19 Rosa (Grantiau Bach)

Bydd y gronfa hon yn darparu grantiau hyd at £10l ar gyfer sefydliadau arbenigol i fenywod ledled y DU. Pwrpas cam cyntaf y gronfa ymateb yw darparu grantiau sydyn a syml gyda meini prawf cymhwysedd sylfaenol iawn. Mae’r sefydliad o’r farn ei bod hi’n hanfodol bwysig fod hon yn alwad agored i sefydliadau i fenywod ymgeisio am yr hyn y maen nhw’n ei adnabod fel angen cyllido byrdymor.

Does dim dyddiad cau ar gyfer gwneud cais. Ystyrir ceisiadau ar sail gylchynol.

I wneud cais, darllenwch ddogfen ganllaw lawn Rosa  cyn ymgeisio os gwelwch yn dda, ac edrychwch drwy gwestiynau cyson Rosa. Llenwch  ffurflen gais ar lein gryno Rosa  gan amlinellu sut y byddwch chi’n defnyddio’r cyllid Maen nhw’n awyddus i sicrhau fod y broses ymgeisio mor syml â phosib, felly cysylltwch â nhw ar info@rosauk.org os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch cyflwyno cais.

Cronfa Bagiau Siopa Tesco ‘Tesco Bags of Help’

Bydd Tesco’n darparu grantiau o hyd at £1k i gefnogi prosiectau sy’n canolbwyntio ar blant a phobl ifanc leol. Mae Grantiau Cymunedol Tesco’n cefnogi achosion da lleol sy’n canolbwyntio ar helpu plant a theuluoedd. Enghreifftiau o geisiadau cymwys â ffocws ar gefnogi plant a theuluoedd allai fod:

  • ysgol leol sydd angen bwyd ar gyfer clwb brecwast i’r plant
  • sefydliad gwirfoddol sy’n gweithio gyda theuluoedd i gynnal clybiau gwyliau
  • elusen sy’n cefnogi pobl ifanc â chyngor arbenigol i reoli iechyd meddwl
  • grŵp Brownie neu Sgowtiaid sydd eisiau pebyll newydd
  • clwb chwaraeon ieuenctid sydd angen offer newydd
  • canolfan gyngor i deuluoedd sydd eisiau recriwtio mwy o wirfoddolwyr
  • grŵp cyfeillion parc lleol sydd eisiau datblygu ardal newydd i’r plant lleiaf

Dysgu mwy ar dudalen we Grantiau Cymunedol Tesco.

Ymddiriedolaeth Fore

Ar gyfer cylch cyllido hydref 2021, mae’ Fore yn cynnig grantiau am 6 i 18 mis o hyd at £15k. Nid oes cyfyngiad ar grantiau, sy’n golygu fod ganddynt y potensial i drawsnewid sefydliadau. Gallai hyn gynnwys helpu sefydliadau i ddod yn fwy cynaliadwy, yn fwy effeithiol, i dyfu’n sylweddol, neu alluogi sefydliad i gymryd cam mawr ymlaen. Mae Ymddiriedolaeth Fore yn ystyried fod eu grantiau’n fuddsoddiad yn y sefydliadau a gefnogir ganddo.  Dysgu mwy am Ymddiriedolaeth Fore a gwneud cais.

Cefnogaeth i Fusnesau â Covid-19

Banc Datblygu Cymru

Mae cronfa o £100m ar gael i gwmnïau syn cael problemau llif arian. Mae benthyciadau o rhwng £5k a £250k ar gael ar gyfradd llog ffafriol.  Ymweld â gwefan Banc Datblygu Cymru.

Rhwydwaith Ymateb Busnes Cenedlaethol

Cafodd pandemig COVID-19 effaith fawr ar drefi a dinasoedd ledled y DU. Ni fu’r angen i gysylltu cefnogaeth i fusnesau ag angen y gymuned erioed yn gymaint o flaenoriaeth. I gwrdd â’r galw hwn mae’r  Rhwydwaith Ymateb Busnes Cenedlaethol yn paru anghenion y gymuned â’r gefnogaeth fusnes gywir. Gallwch chi fod yn rhan o hyn hefyd, gan helpu i achub a newid bywydau drwy #COVID19. Dyma sut:

Grantiau CBSRCT ar gael drwy awdurdodau lleol 

Ewch i wefan CBSRCT i gael mwy o wybodaeth am eu grantiau i fusnesau..

Cronfa Wytnwch Economaidd Llywodraeth Cymru

Canfyddwr Cefnogaeth Busnes

Social Investment Cymru, Benthyciadau Argyfwng Cyflym

Mae hwn wedi’i deilwra i anghenion pob ymgeisydd o ran swm, tymor a phroffil ad-dalu.  Ewch i dudalen y WCVA ar Social Investment Cymru.

Cronfa Gymunedol Comic Relief yng Nghymru

Grantiau Twf Sefydliadol, £30k i £50k

Wedi’i weinyddu gan CGGC, nod y grantiau ar gyfer twf sefydliadol yw rhoi cyfle i sefydliadau gael effaith strategol a chynyddu gwydnwch, er enghraifft:

  • Adeiladu ar yr hyn sy’n gweithio’n dda mewn perthynas â gweithgaredd cymunedol eich sefydliad
  • Cryfhau a mesur effaith eich gweithgaredd craidd a arweinir gan y gymuned
  • Datblygu ffyrdd newydd o weithio

I wneud cais am Grant Twf Sefydliadol, bydd angen i chi gofrestru gyda Phorth Ceisiadau Amlddefnydd CGGC (MAP). Os ydych wedi cofrestru gyda MAP o’r blaen, gallwch fewngofnodi trwy roi eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar y sgrin gartref.

Gall sefydliadau gofrestru drwy fynd i’r wefan map.wcva.cymru.

Os oes angen help arnoch i gofrestru ar MAP dilynwch y fideo hwn.

Os hoffech gael eich ysbrydoli gan brosiectau a ariennir o dan gynllun peilot y Grantiau Twf Sefydliadol gallwch lawrlwytho crynodeb o gyflawniadau’r prosiect yma.

Themâu Strategol Comic Relief
Bydd pob prosiect llwyddiannus yn dangos cyfraniad at un o bedair Thema Strategol Comic Relief:

  • Mae plant yn goroesi ac yn ffynnu: camau gweithredu i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant a mynediad at gyfleoedd i gyflawni eu potensial
  • Cyfiawnder rhyw: camau i wella cydraddoldeb i fenywod a merched
  • Lle diogel i fod: camau i helpu pobl agored i niwed i wella eu hamgylchiadau a’u diogelwch
  • Materion iechyd meddwl: camau gweithredu i alluogi mynediad at gymorth a chynyddu ymwybyddiaeth

Cymhwyster
Mae sefydliadau sydd â diben â ffocws cymdeithasol ac incwm o lai na £250k yn gymwys i wneud cais. Mae cyfanswm o £900k ar gael mewn grantiau.

Amserlen
Mae’r ffenestr ymgeisio ar agor o 18 Ebrill 2022, gan gau 27 Mehefin 2022.

Y cynharaf y gellir prosiectau eu cychwyn yw 22 Awst 2022 gan ddod i ben erbyn 30 Awst 2023 fan bellaf.

Cynllun Grantiau Gwirfoddoli Cymru WCVA yn ailagor

Y WCVA sy’n gweinyddi’r cynllun hwn. Cafodd ei gynllunio i gyflenwi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adnabod cyfleoedd ar gyfer mwy o bobl i wirfoddoli, drwy gyfrwng grantiau o hyd at £20k.

Bydd cynllun grantiau Gwirfoddoli Cymru eleni’n canolbwyntio ar ymyriadau 10 mis o hyd sy’n taclo rhwystrau i wirfoddoli, gan roi profiad cadarnhaol i’r gwirfoddolwr ac effaith hirdymor i’r gymuned. Eu gobaith yw gwneud hyn drwy unioni amcanion y cyllid â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015).  Dysgu mwy ar wefan WCVA ar gyfer ailagor y grant..

Ymddiriedolaeth Cod Post y Bobl

Ar agor nawr.

Ceir sawl cylch agored eleni. Ymysg themâu mae:  

  • gwella llesiant meddwl
  • galluogi cymunedau i gyfranogi mewn celfyddydau
  • atal neu leihau effaith tlodi
  • cefnogi grwpiau ymylol a hybu cydraddoldeb
  • gwella bioamrywiaeth a gofodau gwyrdd
  • galluogi cyfranogiad mewn gweithgarwch corfforol
  • ymateb i’r argyfwng hinsawdd a hybu cynaliadwyedd
  • cynyddu mynediad cymunedol i lecynnau awyr agored

Dysgu mwy ar wefan Ymddiriedolaeth y Gymuned Cod Post.

Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen-Y-Cymoedd

Mae’r gronfa hon yn cefnogi cymoedd ym Mlaenau Cwm Rhondda a Blaenau Cwm Cynon yn RCT. Ar hyn o bryd maen nhw’n darparu: 

  • Mae’r Gronfa Weledigaeth ar gael i brosiectau sy’n werth dros £25k. Mae’n parhau ar agor a’r cam cyntaf ar gyfer unrhyw un sydd eisiau gwneud cais yw cysylltu â thîm Pen-Y-Cymoedd. Bydd y gronfa’n rhoi blaenoriaeth eleni i gefnogi sefydliadau a busnesau sydd eisoes yn bodoli yn ystod argyfwng COVID-19. Felly, er bod y Gronfa Weledigaeth yn parhau ar agor, mae’n bwysig nodi fod amserlen gwneud penderfyniadau a dyfarnu unrhyw arian yn debygol o fod yn hirach nag arfer, ac y gallai ymestyn i mewn i’r flwyddyn nesaf.

Gweld i ble mae ardal fantais Pen y Cymoedd yn ymestyn.

I drafod syniadau gellir cysylltu â Kate Breeze a Michelle Nobel dros e-bost: enquiries@penycymoeddcic.cymru neu â’r rhifau symudol canlynol:
Mobile: 07458 300 123.
Mobile: 07458 300 117.

Gallwch drafod cynigion hefyd drwy gyfrwng y Tîm Cefnogi Cymunedau:

Sefydliad Hargreaves

Sefydlodd Peter Hargreaves a’i deulu y sefydliad elusennol hwn ar gyfer rhoi grantiau yn 2020. Mae ceisiadau ar agor i sefydliadau sydd eisiau cefnogi pobl dan 18 oed drwy gyfrwng chwaraeon ac addysg sydd yn:

  • byw gyda phroblem iechyd meddwl
  • dioddef o anabledd corfforol
  • cael eu magu mewn tlodi

Dysgu mwy ar  wefan Sefydliad Hargreaves.

Adfywio’r Ardaloedd Glofaol: Rhaglen Grantiau Cymunedau Glofaol

Mae’r rhaglen yn darparu grantiau (o £500 i £7k refeniw neu gyfalaf) i sefydliadau cymunedol. Mae hyn er mwyn cefnogi prosiectau yng nghymunedau glofaol Cymru i greu swyddi, cynyddu sgiliau, gwella iechyd a llesiant, ehangu darpariaeth gofal plant neu ddatblygu cyfleusterau cymunedol. Bydd Panel Asesu Grant Cymru’n cwrdd yn chwarterol. Cam cyntaf y broses yw llenwi Ffurflen Ymholi Rhaglen Grantiau Cymunedau’r Maes Glo (Cymru) y gellir ei lawrlwytho wrth ymweld â  gwefan Grant Cymunedau Glofaol.

Sefydliad Cymunedol yng Nghymru: Trosolwg Grantiau Cymru

Dyma gyllid ar gyfer:  

  • cynorthwyo grwpiau a sefydliadau sy’n addasu’u gwasanaethau
  • cefnogi unigolion a theuluoedd a effeithiwyd gan bandemig COVID-19 boed hynny’n unigol neu ar y cyd  

Gweld gwefan Sefydliad Cymunedol yng Nghymru ar gyfer Trosolwg Grantiau Cymru.

Henry Smith

Mae’r elusen hon yn darparu grantiau ar gyfer sefydliadau bach a chanolig yn y DU i gefnogi costau rhedeg prosiectau a sefydliadu. Ymgeisiwch ar wefan Henry Smith.

Darllenwch drwy eu ‘Canllawiau Cyllido Gwella Bywydau’ a ‘Canllawiau Cyllido Cryfhau Cymunedau’ i gael mwy o wybodaeth. Gallwch hefyd ffonio 020 7264 4970 a gofyn am gael siarad ag aelod o’r Tîm Grantiau.

Sefydliad Garfield Weston

Mae’r Sefydliad yn cefnogi ystod eang o elusennau ledled y DU sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Maen nhw’n ariannu ystod eang o achosion ac elusennau a bydd eu grantiau’n amrywio o ran maint yn dibynnu ar faint yr elusen a’r gwaith sy’n cael ei wneud. Ewch i wefan Sefydliad Garfield Weston.

Ymddiriedolaeth Iechyd Pobl, Rhaglen Cymunedau Bywiog

Mae Cymunedau Bywiog yn rhaglen gyllido ar gyfer grwpiau cymunedol a sefydliadau nid-er-elw gydag incwm o dan £350k y flwyddyn neu gyfartaledd o £350k dros ddwy flynedd. Dysgu mwy am Ymddiriedolaeth Iechyd Pobl ar eu gwefan.

Deddf Eglwysi Cymru

Gallwch ddychwelyd at y cyllidwr hwn hyd at bedair gwaith y flwyddyn. Cyhyd ag y bo’r cyllid presennol ganddynt wedi’i wario, pob gwaith papur monitro wedi’i gwblhau a’i ddychwelyd, gallwch wneud cais eto. Heb gyllid cyfatebol, gallech wneud cais am hyd at £8k, neu gyda chyllid cyfatebol, mae’r cyfle’n cynyddu i hyd at £50k. Gweld mwy am gronfa Deddf Eglwysi Cymru ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Sefydliad Elusennol Trust House

Mae’r sefydliad hwn yn darparu grantiau unigol neu aml-flwyddyn rhwng £7.5k a £60k ar gyfer costau craidd, cfygoau, costau cynnal a phroseictau. Ni ddylai’r swm y gofynnir amdano fod yn fwy na 50% o gyfanswm y gost.  Dysgu mwy ar wefan Sefydliad Elusennol Trust House.

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: Cronfa Cefnogi Syniadau Gwych, Cymru

Dyma gronfa newydd gan gymuned y loteri genedlaethol i Gymru. Drwy gefnogi syniadau gwych, bydd grantiau’n cael eu rhoi i sefydliadau sy’n cefnogi syniadau prosiectau arloesol a strategol bwysig sy’n annog newid cymunedol cadarnhaol yng Nghymru. Maen nhw’n chwilio am geisiadau sy’n cwrdd â’u blaenoriaethau diwygiedig o:

  • cefnogi sefydliadau i addasu neu arallgyfeirio er mwyn ymateb i heriau newydd a heriau’r dyfodol
  • cefnogi cymunedau a effeithiwyd er gwaeth gan COVID-19
  • Cefnogi cymunedau a sefydliadau i ddod yn fwy cydnerth er mwyn eu helpu i ymateb yn well i argyfyngau yn y dyfodol  

Mae’r gronfa’n barhaus. Dysgu mwy ar wefan Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Grantiau Meicro, Cylch 2

Mae Cylch 2 o’n cynllun Grantiau Meicro bellach ar agor. Gall grwpiau cymunedol wneud cais am grantiau hyd at £500 i gyllido naill ai gostau refeniw neu offer cyfalaf bach i helpu eich grŵp. Gellir defnyddio’r grantiau hyn i gyllido gweithgareddau dan unrhyw un o’r meini prawf canlynol:

  • Effeithlonrwydd ynni. Helpu i gynnal asesiad effeithlonrwydd ynni a drefnir gennym ni i weld beth allwch chi ei wneud ac i agor drws i ragor o gyllid i wella effeithlonrwydd ynni yn eich adeilad cymunedol.
  • Plant, pobl ifanc a theuluoedd. Mae hwn ar gyfer prosiectau’r haf a anelir at ddod â phobl ifanc, plant a / neu’u teuluoedd ynghyd.
  • Tlodi bwyd. Mae hwn ar gyfer prosiectau sy’n helpu cymunedau i gael mynediad i fwyd ar gyllideb, neu i’w ddarparu, wrth i gostau byw barhau i gynyddu.
  • Prosiectau gwyrdd/awyr agored/tyfu. Mae hwn ar gyfer prosiectau dros yr haf sy’n annog cymunedau i ddefnyddio llecynnau awyr agored.

Gallwn hefyd helpu grwpiau newydd â chostau sefydlu, felly cysylltwch ar bob cyfri! I wneud cais, anfonwch e-bost at grants@interlinkrct.org.uk, gan roi manylion eich prosiect a faint yr hoffech chi wneud cais amdano.

Diolch o galon i Ripple a fydd yn darparu cefnogaeth ariannol drwy gyfrwng Fferm Wynt Graig Fatha, fferm wynt gyntaf y DU i fod yn eiddo i’r defnyddwyr.

Cronfa Fuddsoddi Gymunedol Trivallis

Mae’r gronfa hon, a reolir ac a hybir gan Sefydliad Cymunedol Cymru, bellach ar agor i dderbyn ceisiadau. Fe’i cynlluniwyd ar gyfer grwpiau cymunedol a sefydliadau gwirfoddol cyfansoddedig sy’n cefnogi pobl o fewn cymunedau Trivallis. I wneud cais, rhaid i’ch prosiect ateb o leiaf un o ofynion themâu’r gronfa isod:

  • cynhwysiant cymdeithasol
  • iechyd a llesiant
  • dysgu a chyflogadwyedd
  • gwelliannau amgylcheddol cynaliadwy

Mae dau fath o grant ar gael:

  • ceisiadau llwybr sydyn dan £1k
  • grantiau mawr rhwng £1,001 a £5k

I ddarllen mwy am y gronfa, archebu galwad gyda swyddog grantiau, a gwneud cais ar lein, ewch i wefan Sefydliad Cymunedol Cymru.

Cronfa Sefydliad Blakemore.

Adfywio’r Meysydd Glo

Ar hyn o bryd mae’n cynnig pedwar cynllun grant a seilir yn y gymuned. Dysgwch ragor yma ar wefan Cynllun adfywio’r Meysydd Glo.
E: wales@coalfields-regen.org.uk.
T: 01495 367680.

Y sefydliad Cymunedol yng Nghymru

Mae gan y sefydliad wybodaeth am grantiau ar y dudalen drosolwg grantiau. Ewch i wefan Cronfa Sefydliadu Cymunedol Cymru, neu  ewch i dudalen trosolwg grantiau Cronfa Sefydliadu Cymunedol Cymru.

Cronfa Gymunedol y Coop .

Grant Cymunedol Dwr Cymru .

Cronfa Gymunedol Greggs .

Sefydliad Morrisons

Mae’r sefydliad yn cynnig grantiau o hyd at £25k i elusennau cofrestredig sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol mewn cymunedau lleol.  Dysgwch ragor am y grantiau ar wefan Sefydliad Morrisons.

Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen-Y-Cymoedd

Mae’r gronfa hon yn parhau i fod ar agor ar gyfer busnes. Mae’n cefnogi cymoedd ym Mlaenau Cwm Rhondda a Blaenau Cwm Cynon yn RCT. Mae gan y cynllun hwn ddwy gronfa:

  • Gronfa Ficro ar gyfer ceisiadau hyd at £5k. Gweler yr astudiaeth achos hon am Grŵp Coedwig Cwmaman sydd wedi defnyddio’r gronfa’n llwyddiannus, a darllenwch y daflen hon am  gronfa ficro Pen-Y-Cymoedd.
  • Mae’r Gronfa Weledigaeth ar gael i brosiectau sy’n werth dros £25k. Mae’n parhau ar agor a’r cam cyntaf ar gyfer unrhyw un sydd eisiau gwneud cais yw cysylltu â thîm Pen-Y-Cymoedd. 

Gweld i ble mae ardal fantais Pen y Cymoedd yn ymestyn.

I drafod syniadau gellir cysylltu â Kate Breeze a Michelle Nobel dros e-bost: enquiries@penycymoeddcic.cymru neu â’r rhifau symudol canlynol:
07458 300 123
07458 300 117

Gallwch drafod cynigion hefyd drwy gyfrwng y Tî Cenfogi Cymunedau:

Mae Ymddiriedolaeth Gymunedol y Cod Post yn agor ddwywaith y flwyddyn.   Ymweld â gwefan Ymddiriedolaeth Gymunedol y Cod Post.

Mae’r Clwb Rotari’n  darparu grantiau o £300. Gweld mwy o wybodaeth ar wefan y Clwb Rotari..

Cronfa Arloesi First Campus

Bydd y corff hwn yn ariannu’n llawn brosiectau sy’n cefnogi’r sector addysg hyd at £15k. Mae gan First Campus ddiddordeb mewn clywed gan sefydliadau sydd eisiau gweithio gyda’r dysgwyr mwyaf bregus, a’r rheiny o gefndiroedd difreintiedig yn ne Ddwyrain Cymru. Darllen mwy ar  wefan First Campus.

The Fat Beehive

Mae grantiau bach o hyd at £2.5k ar gael i elusennau sydd â throsiant is na £1m yn benodol i wella’u presenoldeb digidol. Nid yw’r arian ar gyfer gwariant TG cyffredinol, ond ar gyfer gwneud argraff wirioneddol drwy gyfrwng prosiectau digidol. Darllen mwy am gronfa The Fat Beehive ar Funding Eye.

Sefydliad Paul Hamlyn

Mae’r sefydliad a Comic Relief wedi lansio cronfa ddatblygu ddigidol ‘Tech er Budd’ o’r enw ‘Build’. Bydd arian ar gael i sefydliadau nid-er-elw a phartneriaid er mwyn diffinio, profi a datblygu atebion digidol a ganolir ar ddefnyddwyr sy’n cwrdd ag angen cymdeithasol ac sy’n gysylltiedig â Strategaeth Newid Cymdeithasol Comic Relief. Mae grantiau o hyd at £70k ar gael dros naw mis. Dysgu mwy ar eitem newyddion Tech Er Budd ar wefan Sefydliad Paul Hamlyn.

Cyrff cyllido digidol eraill

Grantiau mawrion

Grantiau Twf Sefydliadol.

£30k i £50k.

Dysgwch mwy trwy:

E: comicreliefgrants@wcva.cymru

G: Y dudalen ar gyfer grantiau Comic Relief ar wefan CGGC.

T: 0300 111 0124.

 

Cefnogi busnes a swyddi

Benthyca Busnes Purple Shoots

Mae’r sefydliad hwn yn gorff cyllido meicro nid-er-elw sy’n darparu benthyciadau busnes bach ar gyfraddau teg. Maen nhw hyd yn oed yn helpu llenwi’r ffurflenni.  Dysgu mwy ar wefan Purple Shoots.

Cynllun Kick Start Llywodraeth y DU

Mae’r llywodraeth yn ariannu cyflogwyr i greu lleoliadau swyddi i bobl rhwng 16 a 24 oed. Mae hyn yn eich galluogi i gyflogi ieuenctid dawnus all fynd â’ch sefydliad ymhellach, ac a fyddai’n gwerthfawrogi cael rhywfaint o gefnogaeth wrth ddechrau ar eu gyrfa ar adeg anodd.  Gweld mwy ar wefan Llywodraeth y DU.

Dyfarniadau Cyllid UnLtd

Mewn ymateb i COVID-19, mae UnLtd wedi hybu rhaglen wobrau greiddiol ar gyfer entrepreneuriaid cymdeithasol yng Nghymru i sicrhau fod y gefnogaeth yn cyrraedd ble mae’r angen mwyaf. Ceir gwobrau rhwng £500 a £15k ar draws tri phecyn cychwynnol gwahanol ar gyfer entrepreneuriaid cymdeithasol yng Nghymru:

  • Gwobrau ‘Rhoi Cynnig’ i gefnogi entrepreneuriaid cymdeithasol i roi’u syniadau ar brawf.
  • Gwobrau ‘Gwneud’ i ddarparu cyllid a chefnogaeth i’ch helpu i ddechrau a chreu effaith gymdeithasol glir.
  • Gwobrau ‘Tyfu’ i helpu entrepreneuriaid cymdeithasol sydd eisoes yn ffynnu i dyfu’u heffaith ac adeiladu model ariannol cynaliadwy.

Dysgu mwy ar wefan UnLtd..

Grantiau cyfalaf

Ystyr hyn yw eitemau y gallwch gyffwrdd â nhw’n llythrennol fel gwaith adeiladu, offer a drysau.

Rhaglen Grantiau Cymunedol y Meysydd Glo

Mae’r rhaglen hon yn rhoi grantiau refeniw neu gyfalaf o £500 i £7k i sefydliadau cymunedol er mwyn cefnogi prosiectau mewn cymunedau ym maes glo Cymru sy’n:

  • creu swyddi
  • cynyddu sgiliau
  • gwella iechyd a llesiant
  • ehangu darpariaeth gofal plant
  • datblygu cyfleusterau cymunedol

Darllen mwy ar wefan Ymddiriedolaeth Gymunedol y Meysydd Glo.

Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol

Dyma raglen grant cyfalaf a gynhelir gan Lywodraeth Cymru. Mae grantiau ar gael ar ddwy lefel:

  • grantiau bach o dan £25k
  • grantiau mwy hyd at £250k

Gellir defnyddio grantiau i wella cyfleusterau cymunedol sy’n ddefnyddiol ar gyfer pobl yn y gymuned ac a ddefnyddir yn helaeth ganddynt. Mae’r rhaglen yn agored i sefydliadau cymunedol a gwirfoddol, gan gynnwys mentrau cymdeithasol. Canolbwyntir ar gynyddu cyfle, creu ffyniant i bawb a datblygu cymunedau gwydn ble mae pobl wedi ymgysylltu a grymuso. Disgwylir i bob ymgeisydd weithio gyda phartneriaid, all ddod o’r sectorau cyhoeddus, preifat neu’r trydydd sector. Gweld mwy am y gronfa ar wefan Cyfleusterau Cymunedol.

Cronfa Deddf Eglwysi Cymru

Mae Cronfa Deddf Eglwysi Cymru ar gael i eglwysi, capeli, lleoliadau addoli cyhoeddus, grwpiau cymunedol cyfansoddiadol ac elusennau. Rhaid iddynt fod yn gweithredu ym mwrdeistrefi sirol Rhondda Cynon Taf, Merthyr neu Ben-y-bont. Rhaid i sefydliadau ddarparu gweithgareddau sy’n cynnig mantais uniongyrchol hirdymor i breswylwyr a chymunedau yn yr ardaloedd hyn, a rhaid iddynt fod ar agor i’r cyhoedd yn gyffredinol. Mae’r gronfa’n darparu cefnogaeth ar gyfer gwariant cyfalaf fel:

  • adnewyddu adeiladau cymunedol neu leoliadau addoli
  • prynu offer cyfalaf
  • pwrpasau eraill sy’n fuddiol i’r gymuned ehangach

Mynd i dudalen CBSRCT ar gyfer Cronfa Deddf Eglwysi Cymru.

Grantiau refeniw

Gall y grantiau hyn fod yn addas ar gyfer talu costau cynnal.

Gweler yr adran ‘Cyfalaf’ am wybodaeth ar Raglen Grantiau Cymunedol y Meysydd Glo, a all gael eu defnyddio hefyd ar gyfer refeniw.  

Garfield Weston

Mae’r gronfa hon yn parhau i fod ar agor. Mae’n gwneud rhoddion a grantiau dirwystr ar gyfer costau craidd yn ogystal â chostau a ragwelir. Mae ganddo broses ymgeisio un-cam syml, ac er nad oes sicrwydd o gael grant, maen nhw’n hoffi’n fawr glywed gan elusennau cymwys. Ewch i wefan sefydliad Garfield Weston  i gael gwybodaeth am sut i ymgeisio a beth i’w gynnwys mewn cais.

Henry Smith

Mae’r elusen hon yn darparu grantiau ar gyfer sefydliadau bach a chanolig yn y DU i gefnogi costau rhedeg prosiectau a sefydliadu.

Ymgeisiwch ar wefan Henry Smith. 

Darllenwch drwy eu ‘Canllawiau Cyllido Gwella Bywydau’ a ‘Canllawiau Cyllido Cryfhau Cymunedau’ i gael mwy o wybodaeth. Gallwch hefyd ffonio 020 7264 4970 a gofyn am gael siarad ag aelod o’r Tîm Grantiau.

Sefydliad Esmée Fairbairn

Mae cylch cyllido newydd ar agor ar gyfer set newydd y sefydliad o nodau argraff. eu nodau newydd yw: 

  • gwella ein byd naturiol
  • taclo anghyfiawnder i ddarparu dyfodol tecach
  • meithrin creadigrwydd
  • cymunedau hyderus 

Darllen am nodau newydd y sefydliad ar eu gwefan ac ymgeisio.

Ymddiriedolaeth Thomas Wall

Mae’r gronfa hon ar gau ar hyn o bryd, ond bydd yn ailagor yn ystod hydref 2021.

Mae grantiau hyd at £5k ar gael tuag at brosiectau penodol neu weithgareddau craidd sy’n cefnogi:

  • llythrennedd
  • rhifedd
  • digidol
  • sgiliau ychwanegol ar gyfer dysgu sy’n debygol o gynorthwyo rhagolygon cyflogaeth

Dysgu mwy ac ymgeisio ar wefan Ymddiriedolaeth Thomas Wall.

Nwyddau ac amser cyfatebol

In Kind Direct

Sefydlwyd yn 1996 gan EUB Tywysog Cymru, mae In Kind Direct yn dosbarthu nwyddau defnyddwyr, a roddwyd gan gwmnïau i elusennau’r DU sy’n gweithio yn y DU a thramor. Maen nhw’n gweithio gyda sefydliadau nid-er-elw a chwmnïau i helpu sicrhau fod gan bawb fynediad i hanfodion bywyd ac nad oes yr un cynnyrch defnyddiol yn mynd yn wastraff. Ymweld â thudalen we In Kind Direct.

Cynllun Fare Share

Mae’r sefydliad hwn yn credu na ddylai dim bwyd da fynd yn wastraff. Mae’r sefydliad hwn yn ailddosbarthu bwyd dros ben i elusennau sy’n ei droi’n brydiau.  

Ymweld â gwefan Fare Share.

Bas data ariannwr Covid Charity Excellence

Mae’r safle hwn yn darparu canllawiau, cymorth a help rhad ac am ddim i elusennau. Mae’n cynnwys miloedd o ddolenni i help rhad ac am ddim, elusennau a phecynnau offer ar gyfer y sector elusennol, sy’n cynnwys bas data i arianwyr. Cofrestru ar wefan Charity Excellence.

Ymddiriedolaeth Cranfield

Mae’r sefydliad hwn yn darparu cefnogaeth reoli rad ac am ddim i elusennau. Mae’u rhaglen HRNet yn rhoi gwasanaethau Adnoddau Dynol am ddim i elusennau a mentrau cymdeithasol, gyda chyngor penodol yn ogystal â briffio rheolaidd ar faterion sy’n ymwneud â chyflogaeth. I ymuno â HRNet, cofrestrwch ar  dudalen HRNet Ymddiriedolaeth Cranfield.

Mae gwasanaeth ‘Ar Alw’ yr ymddiriedolaeth yn rhoi cefnogaeth rad ac am ddim dros y ffôn i elusennau. Gallwch siarad yn gyfrinachol â rhywun a chael help gyda’r heriau rydych chi’n eu hwynebu yn y fan a’r lle. I roi tawelwch meddwl i chi, mae’u harbenigwyr a’u rhwydwaith o wirfoddolwyr busnes ar gael i ateb eich cwestiynau mwyaf brys. Mae’r gwasanaeth ar gael i unrhyw elusen sydd â’r nod cynradd o fynd i’r afael â materion llesiant dynol, os ydyn nhw’n cwrdd â’u meini prawf priodoldeb. Bydd un o’u gwirfoddolwyr yn cynnal sgwrs am awr gyda chi i ateb unrhyw broblemau brys.

I gael mwy o wybodaeth, holwch ar dudalen Ymddiriedolaeth Cranfield am Ar Alw, neu ffoniwch 01794 830338.
Dyma dudalen yn Gymraeg am waith Ymddiriedolaeth Cranfield yng Nghymru.
.

BAME

Cymunedau BAME Iach yn Goroesi COVID-19

Mae grantiau ar gael i helpu grwpiau BAME bach a chanolig a’u cymunedau adeiladu llesiant, gwytnwch a gallu drwy gyfrwng prosiectau amrywiol. Mae cyllid yn amrywio o £500 i £10k. Dysgu mwy ar wefan Rhwydwaith Polisi Iechyd Affrica.

Cyllid iechyd a llesiant

Grantiau Gofalwyr

Dyddiad cau: canol dydd 30/05/22.

Mae grantiau o £5k, £10k neu £55k ar gael er mwyn cefnogi gofalwyr o bob oedran yn y gymuned. Dylai nodau eich prosiect yn gynnwys ‘cefnogi gofalwyr di-dâl pan mae’r person eu bod nhw’n gofalu amdano’n cael ei rhyddhau o ysbyty.’

Mae Cynllun Cronfeydd Argyfwng Sefydliad Asda (UK) ar gael

Dysgu mwy am wneud cais ar wefan Sefydliad ASDA.

Sustainable Food Places

Mae’r sefydliad hwn yn darparu grantiau, cyngor a chefnogaeth i alluogi partneriaethau bwyd lleol i:

  • yrru newidiadau i bolisi ac arferion lleol
  • ymgymryd ag ymgyrchoedd, prosiectau ymarferol a mentrau ymgysylltu â’r cyhoedd

Maen nhw’n cynnig rhai grantiau datblygu i leoedd sy’n diddori mewn, neu eisoes yn dechrau, datblygu partneriaeth fwyd ar draws ardal awdurdod lleol yng Nghymru. I gael manylion llawn am ffocws a meini prawf cymhwysedd y grantiau hyn, lawrlwythwch ffurflen gais os gwelwch yn dda o wefan Sustainable Food Places. 

Cronfa’r Brenin (The King’s Fund)

Mae’r corff hwn yn cynnal cystadleuaeth sy’n agored i elusennau iechyd a llesiant a seilir yn y gymuned. Mae’n cydnabod arloesi, llwyddiant a chyflawniadau ar gyfer gwaith iechyd sydd eisoes yn digwydd. Mae gwobrau lluosog o hyd at £40k ar gael, gyda mentora’n cael ei gynnig hefyd.  Darllen mwy ar wefan Cronfa’r Brenin.

BBC Plant Mewn Angen

Mae’r sefydliad hwn yn cynnig cyllid ar hyn o bryd ar gyfer:  

  • darparu prosiectau (gan gynnwys costau staffio a chyflogau)
  • atebion creadigol i ddarparu gwasanaethau mawr eu hangen
  • costau trefniannol i gefnogi sefydlogrwydd ac addasu (gan gynnwys costau beunyddiol cynnal sefydliad o’i gymharu â chostau penodol prosiect)  

Bydd yn rhaid i bob cais ddangos sut y bydd y cyllid yn gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc yn ystod y pandemig. Y blaenoriaethau yw prosiectau sy’n taclo cam-drin, ynysu a mynediad i wasanaethau. Cynghorir ymgeiswyr i o ddarllen y meini prawf cymhwysedd yn ofalus ar wefan Plant Mewn Angen, ble gellir gwneud cais hefyd. Mae’r grantiau bach yn werth hyd at £10k y flwyddyn am dair blynedd, a’r prif grant dros £10k am dair blynedd.

Gweithgareddau chwaraeon a chlybiau chwaraeon

Cronfa Cymru Actif

Ydy COVID-19 wedi effeithio ar eich gweithgaredd chwaraeon lleol? Gallwch ymgeisio erbyn hyn am grant drwy Gronfa Cymru Actif ‘Chwaraeon Cymru er mwyn sicrhau fod eich cynnig chwaraeon yn goroesi’r pandemig, neu i’ch helpu i baratoi i ailgychwyn eich gweithgaredd yn ddiogel.

Game On Gear Grant

Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo sy’n darparu rhaglen Game On Cymru. Ei nod yw cael mwy o bobl ifanc (13 i 19 oed) o gymunedau Meysydd Glo Cymru i chwarae chwaraeon. Maen nhw’n cyllido dillad chwaraeon hyd at uchafswm o £500.  Darllen Ffurflen Gais Game On Gear a Nodiadau Canllaw.

Treftadaeth a natur

Y Cyngor Coed

Gall ysgolion a grwpiau cymunedol yn y DU ymgeisio am grantiau o rhwng £300 a £1.5k. Mae’r arian ar gyfer cael cymunedau a phobl ifanc i gymryd rhan mewn plannu coed a pherthi a’u gofal dros y gaeaf hwn. Mae’r cyllid yn cael ei alluogi drwy gyfrwng Cronfa Branching Out y Cyngor Coed. Ystyrir ceisiadau wrth iddynt gael eu derbyn a rhoddir gwybod i ymgeiswyr am ganlyniad eu cais o fewn pedair wythnos.

Does dim dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, ond rhaid i ymgeiswyr sicrhau y gallant gynllunio a chyflawni’u prosiect, a hawlio’r cyllid pan fyddan nhw wedi gorffen. Dysgu mwy ar wefan y Cyngor Coed.

Cronfa Gefn Gwlad y Tywysog

Mae gan y gronfa hon grantiau o hyd at £10k ar gael ar gyfer prosiectau sy’n gweithio i greu cymunedau cefn gwlad gwydn.  Dysgu mwy ar wefan Cronfa Gefn Gwlad y Tywysog.

Grant Bioamrywiaeth Dwr Cymru

Ewch i wefan Dwr Cymru  i ddysgu mwy am eu Grant Bioamrywiaeth.

Cronfa Dreftadaeth y Loteri

Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a rhaglenni grantiau newydd Llywodraeth Cymru i helpu cymunedau ofalu am y byd naturiol.  Darllen mwy am Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar eu gwefan.

Cyllid Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC):

Mae CNC yn cynnig cyfleoedd cyllido grant ar gyfer unigolion a sefydliadau sy’n ceisio cynnal prosiectau sy’n: 

  • gwreiddio mesurau i alluogi natur a phobl addasu i newid hinsawdd
  • adeiladu gwytnwch ecosystem ar y raddfa addas, mewn dalgylchoedd neu ar raddfa dirweddol
  • gwneud gwahaniaeth i bobl a chymunedau ar yr un pryd ag adeiladu gwytnwch ecosystem
  • cysylltu pobl â natur a materion amgylcheddol

Mae CNC yn cynnig tri math o gyllid grant: 

  • cais deilliannau ar y cyd, y gallwch ofyn amdano ar unrhyw adeg
  • cyllid cystadleuol
  • cyllid strategol a glustnodir, y byddan nhw’n clustnodi cyllid ohono i bartneriaid o 2020/2021 i 2023/24

Ymweld â thudalen cyllid grant CNC am ragor o wybodaeth .

Darllen cylchlythyr hanner blynyddol CNC sy’n cynnwys sawl cynllun cyllido.

Celfyddydau creadigol

Cyngor Celfyddydau Cymru

Ymweld â thudalen gyllido Cyngor Celfyddydau Cymru .

Sefydliad Foyle

Ymweld â thudalen we Cynllun Grantiau Bach Sefydliad Foyle .

Esmee Fairbairn

Mynd i wefan Esmee Fairbairn

Ymweld â thudalen we Esmee Fairbairn ar gyfer Cymunedau Creadigol Hyderus.

Digartrefedd

Help the Homeless

Mae grantiau hyd at £5k ar gael i elusennau cofrestredig gan Help the Homeless. Maen nhw ar gyfer prosiectau cyfalaf i gynorthwyo pobl ddigartref i ailadeiladu’u bywydau a dychwelyd i’r gymuned. Rhaid i geisiadau fod yn berthnasol i brosiectau sy’n cynorthwyo unigolion ddychwelyd i’r gymuned, yn hytrach na dim ond cynnig cysgod neu gynhaliaeth arall.   Cliciwch am ragor o wybodaeth ar wefan Help the Homeless.

Taflenni gwybodaeth am gyllid

Cysylltu â’n tîm cyllido

 

I gael y cyfle gorau o sicrhau cyllid ar gyfer eich prosiectau, cysylltwch â ni i gael cyngor. Gallwn roi cefnogaeth ymroddedig ar draws llu o feysydd o gyllido cynaliadwy i lywodraethiant da.

 

Cyswllt

Interlink RCT

E: grants@interlinkrct.org.uk

T: 01443 846200. 

 

Mewn mannau eraill ar y we

Archifau o’n cylchlythyrau ynghylch cronfeydd, hyfforddiant a llywodraeth

Rhaglen gefnogi Enhance gan Sefydliad Banc Lloyds

Canllawiau diweddaraf WCVA ar ailagor canolfannau cymunedol